Sialens Cymunedol Bagloriaeth Cymru

Ry’n ni wedi datblygu Sialens Cymunedol ar gyfer dysgwyr Bagloriaeth Cymru mewn ysgolion.

Ewch i Hwb i weld y sialens

Gall y sialens cael ei chwblhau trwy’r cymhwyster CA4 Cenedlaethol/Sylfaen.

Nôd ein sialens yw cynnig hyfforddiant i bobl ifanc eraill am hawliau plant a phobl ifanc a rôl Comisiynydd Plant Cymru.

Bydd yr hyfforddiant yn gwella dealltwriaeth pobl ifanc eraill a’r Comisiynydd a’i gwaith.

I’ch helpu i baratoi am y sialens, gallwch chi defnyddio’n gwefan i ddarllen mwy am hawliau plant a gwaith y Comisiynydd.

Gallwch chi hefyd lawrlwytho ein poster hawliau plant.

Yn ogystal, ry’n ni hefyd wedi datblygu canllaw i’ch helpu chi trafod hawliau plant yn eich ysgol.

Cysylltwch â ni i ddweud bod chi’n cwbhlau’r sialens, neu danfonwch tweet i ni.

Gallwch chi hefyd derbyn adnoddau ychwanegol, a chwarae rhan yn ein gwaith, trwy ymuno â’n cynllun newydd (ac am ddim) i ysgolion uwchradd, Llysgenhadon Uwchradd.