Siarter ar Gyfer Newid: Adnoddau

Cyhoeddwyd 2019

Fel rhan o ddatblygu ein hadroddiad ar dlodi plant, buon ni’n gwrando ar gannoedd o blant a phobl ifanc am gostau ysgol.

Mae ein hadnoddau wedi’u llunio i helpu plant a phobl ifanc, staff a llywodraethwyr ysgol i fapio’r costau a allai fod yn anodd i blant a theuluoedd eu fforddio – a hynny yn ystod y diwrnod ysgol ac yn ystod y flwyddyn ysgol.

Rydym hefyd wedi creu adnodd i helpu pobl ifanc mewn clybiau ieuenctid a grwpiau cymunedol i lunio blaenoriaethau ar gyfer gwella’u hardal leol.

Prosiect Gwyrdd-droi – Adnoddau i ysgolion

Rydyn ni wedi creu cynllun gwers o’r enw Prosiect Gwyrdd-droi ar gyfer CA2, CA3 a CA4, sy’n annog plant a phobl ifanc i sefydlu siopau ailddefnyddio gwisg ysgol yn eu hysgolion.

Trwy annog mwy o ysgolion i greu siopau ailddefnyddio, gallwn ni helpu i gyfyngu ar y pwysau mae prynu gwish ysgol yn rhoi ar deuluoedd.

Cyllun gwers CA2

Cynllun gwers CA3/CA4

Cynllun Gwers Hygyrch

Ysgol Maesteg – Cynllun ail-ddefnyddio gwisg prom

Mae disgyblion Ysgol Maesteg wedi sefydlu system i helpu disgyblion ymdopi gyda’r cost o fynd i’r prom diwedd flwyddyn

Cynllun ar draws y sir

Yn ogystal â’r adnoddau i ysgolion, mae gennym gyngor ar gyfer unrhyw grwp sy’n awyddus i sefydlu cynllun cymunedol hefyd.

Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, a Chyngor Sir Ddinbych yn rhedeg cynllun ail-ddefnyddio gwisg ysgol ar draws y sir. Maen nhw wedi rhoi rhestr o awgrymiadau at ei gilydd ar gyfer unrhyw grwpiau eraill sy’n ystyried gwneud yr un peth.

Darllenwch eu hawgrymiadau

Cofia Ceri – Adnoddau i ysgolion

Rydyn ni wedi creu offeryn asesu i ysgolion ystyried effaith ariannol bosibl gweithgareddau ychwanegol ar deuluoedd.

Yr enw rydyn ni wedi rhoi ar hyn yw “Cofia Ceri”.

Cymeriad dychmygol yw Ceri sy’n cynrychioli plentyn neu berson ifanc sy’n dod o deulu sydd heb ddigon o arian i fforddio popeth maen nhw ei angen, ac a allai golli ei hawliau o dan Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn oherwydd hynny.

Rydyn ni eisiau i blant, pobl ifanc ac oedolion yn yr ysgol fod yn rhan o’r gweithgaredd ‘Cofia Ceri’, sydd wedi’i lunio i’w helpu nhw i feddwl am ba gostau allai fod yn anodd i Ceri a’r teulu eu fforddio yn ystod y diwrnod ysgol, ac yn ystod y flwyddyn ysgol.

Yna rydyn ni eisiau iddyn nhw weithio gyda’i gilydd i awgrymu syniadau ar gyfer beth arall gallai’r ysgol ei wneud i helpu.

Cynllun Gwers CA2

Cynllun Gwers CA3/CA4

Cynllun gwers hygyrch

Actifyddion Cymunedol – Adnodd i grwpiau cymunedol

Roedd y plant a’r bobl ifanc y buon ni’n siarad â nhw yn ystod y prosiect yma yn gosod gwerth ar y cyfleoedd maen nhw’n eu cael yn eu cymuned leol.

Roedden nhw hefyd yn teimlo’n angerddol bod rhai gwasanaethau pwysig ar goll.

Mae’r Actifyddion Cymunedol yn weithdy sy’n annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn ymarferiad mapio cymunedol gan gysylltu amwynderau a chyfleusterau yn eu cymuned leol â’u hawliau o dan CCUHP, cyn gofyn iddyn nhw ystyried beth fyddai Ceri, cymeriad dychmygol sy’n cynrychioli plentyn neu berson ifanc sy’n byw mewn tlodi, yn cael trafferth ei fforddio neu gymryd rhan ynddo.

Yna bydd y plant a’r bobl ifanc yn cael eu grymuso/ cefnogi i lunio cynllun ar gyfer gwneud newidiadau i’w cymuned leol, gan gynnwys ymgysylltu â llunwyr penderfyniadau lleol.

Cynllun gweithdy