Cyngor i bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal

Mae’r gwasanaethau sy’n dy gefnogi di a’r bobl sy’n gweithio ynddyn nhw yn dal yno – ond efallai bydden nhw’n gweithio mewn ffordd wahanol.

Mae gen ti dy hawliau o hyd, ac mae’n bwysig bod unrhyw oedolyn sy’n gweithio i’th gefnogi di yn gweithio er dy les pennaf. Mae’n bwysig bod oedolion yn gwrando ar dy farn, dy ddymuniadau a’th deimladau, a’th fod ti’n cael help i fod yn rhan o benderfyniadau sy’n cael eu gwneud am dy fywyd.

Bod mewn cysylltiad ag oedolion sy’n dy helpu;

Falle bydd dy weithiwr cymdeithasol neu dy weithiwr cymorth yn dod i ymweld â thi. Am nawr, efallai bydd eu hymweliad yn digwydd yn yr awyr agored. Efallai byddan nhw’n gwisgo mwgwd. Mae hynny i ddiogelu’r ddau ohonoch chi, i’ch amddiffyn chi rhag y Coronafeirws.

Mae’n bwysig dy fod ti’n gwybod sut i gysylltu â’th weithiwr cymdeithasol. Os nad wyt ti’n gwybod sut mae cysylltu â’th weithiwr cymdeithasol, siarad â’th ofalwyr, dy eiriolwr, neu ffonia dy Dîm Dyletswydd Awdurdod Lleol. Os wyt ti’n methu cysylltu, gallet ti gysylltu â’n Tîm Ymchwiliadau a Chyngor.

Cyfarfodydd pwysig, fel adolygiadau a chynlluniau;

Byddi di’n dal i gael dy adolygiadau gyda’th weithiwr cymdeithasol a’th IRO. Gallai hynny ddigwydd trwy alwad fideo. Os wyt ti braidd yn ansicr am hynny, gofyn i’th weithiwr cymdeithasol am alwad i ymarfer, neu siarad â’th weithiwr cymdeithasol, dy eiriolwr, dy IRO neu oedolyn rwyt ti’n trystio ymlaen llaw i rannu dy bryderon. Mae’n bwysig bod dy lais yn cael ei glywed yn y cyfarfodydd yma, a dylet ti gael gwybod am unrhyw newidiadau i’r ffordd o’u cynnal.

Falle dy fod ti’n gweld eisiau trefn ddyddiol addysg a gweld ffrindiau. Os oes gen ti weithiwr cymdeithasol, rwyt ti’n gallu mynd i Glybiau Gwyliau yn ystod yr Haf. Gall dy weithiwr cymdeithasol helpu gyda hyn.

Eiriolaeth

Beth bynnag sy’n digwydd yn y byd, mae gan bob plentyn a pherson ifanc sydd wedi bod mewn gofal hawl i ddweud eu dweud ar y materion sy’n eu heffeithio nhw, ac i oedolion i gymryd eu safbwyntiau o ddifrif.

Gall unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd fel arfer yn byw yng Nghymru a sydd â gweithwyr cymdeithasol gael Eiriolwr Proffesiyniol Annibynnol.

Mae dau ddarparwyr yng Nghymru, NYAS a TGP Cymru.

Mae yna adnodd arlein sy’n dangos pa ddarparwr sy’n gweithio yn eich ardal.

Defnyddiwch yr adnodd

Cefnogaeth gan Lleisiau o Ofal

Mae Lleisiau o ofal yn cefnogi pobl ifanc yng Nghymru sydd mewn gofal.

Maen nhw’n cynnig y gefnogaeth yma i bobl ifanc:

  • Pethau fel sgyrsiau Facebook live a Skype i drafod sut mae pobl ifanc yn teimlo
  • Cefnogaeth lles
  • Virtual hangouts
  • Gwybodaeth a chyngor

Darllenwch fwy

Nwy/Trydan/Dwr

Efallai eich bod chi’n poeni am adio credyd i’ch cyfrif dwr, nwy neu trydan os ydych chi’n gorfod hunan-ynysu.

Isod mae gwybodaeth i’ch helpu i wneud hyn heb fynd i’r siop, a beth i wneud os ydych chi’n cael trafferth talu.

Dim nwy na thrydan ac yn gorfod hunanynysu

Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, gallai fod yn werth edrych i weld os allwch gofrestru i gael smart meter ‘talu wrth ddefnyddio’. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud taliadau ychwanegol gan ddefnyddio apiau yn hytrach na gorfod mynd allan i wneud taliad mewn siop.

Byddai angen i chi holi eich landlord/cymdeithas dai i gadarnhau eich bod yn gallu gwneud hyn.

Os nad oes mesurydd gennych a bod chi methu mynd allan i’r siop, gallwch brynu rhai côdau drwy fynd yn syth i’r adran gwasanaethau cwsmeriaid – gallwch deipio’r côd hwn mewn i’ch mesurydd presennol i wneud taliad ychwanegol.

Os ydych yn cael eich cyfri fel rhan o grŵp o unigolion yn agored i niwed, yna dylai ddarparwyr nwy a thrydan sicrhau na fyddwch o fewn peryg o gael eich darpariaeth wedi’i ddatgysylltu. Os ydych yn cael trafferth gyda’ch darpariaeth ddim yn gweithio, dylai’r cwmni geisio atal eich problem chi cyn bobl eraill. Cysylltwch gyda’ch darparwr a rhoi gwybod iddynt eich bod yn berson pregus fel fod nhw’n ymwybodol fod angen eich blaenioraethu chi.

Dim arian i dalu am nwy na thrydan (gan gynnwys mewn argyfwng)

Os byddwch yn cysylltu â’ch darparwr nwy neu drydan ac yn rhoi gwybod iddynt nad yw’r arian gennych, gallech ofyn iddynt i wneud taliad ychwanegol i’r mesurydd ar eich rhan. Bydd yn rhaid i chi wneud ad-daliadau, a fydd yn digwydd yn awtomatig pan fyddwch yn gwneud taliadau yn y dyfodol; ond gallwch drafod y telerau pan fyddwch yn siarad am hyn gyda’r darparwr. Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am eich incwm/unrhyw fudd-daliadau y gallech fod yn hawlio.

EDF

Os ydych yn un o gwsmeriaid EDF ac yn gweld hi’n anodd i dalu biliau nwy a thrydan, bydd y ddolen isod yn mynd â chi at Gronfa Cymorth Cwsmeriaid Ynni EDF.

https://www.edfenergytrust.org.uk/

Dŵr

Lleihau Taliadau

Os ydych yn aelod o gartref incwm isel ac yn cael budd-daliadau prawf modd, gallech fod yn gymwys i gael cymorth drwy dariff Helpu Dŵr Cymru i leihau eich biliau dŵr yn y dyfodol. Isod gwelwch ddolen i’r dudalen wê ar gyfer gwneud cais, gyda chyfleuster sgwrsio ar-lein.

https://contact.dwrcymru.com/cy-gb/helpu

Argyfwng/Nam ar y Darparwr

Os bydd argyfwng mewn perthynas â’ch darparwr dŵr, gallwch ffonio’r rhif isod yn rhad ac am ddim – 0800 281 432

Fy Nghynllunydd

Fy Nghynllunydd yw ein gwefan ar gyfer pobl ifanc mewn gofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal.

Mae’n esbonio eich hawliau a beth sydd angen i’r oedolion o’ch cwmpas eu gwneud i’ch helpu.

Ewch i’r gwefan