Diwrnod Byd-Eang y Plant 2018

Mae hawliau dynol yn sicrhau rhyddid ac anghenion sylfaenol dynoliaeth.

Fel y rhai mwyaf agored i niwed o fewn ein cymdeithas, mae plant yn derbyn hawliau ychwanegol, ac mae dyletswydd arnom ni fel cymdeithas i’w warchod a’u hyrwyddo. Nid yw’r hawliau yma’n opsiynol.

Ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant, rydw i am bwysleisio’r cyfle enfawr yma sydd gennym mi fel cenedl i arwain ar lefel ryngwladol drwy sicrhau fod hawliau plant yn ganolog i sut mae ein plant yn datblygu a dysgu, gan sicrhau fod pob plentyn yn tyfu fyny’n hapus, yn iach a diogel, a’u bod yn gwybod sut i gael eu hawliau.

Mae’r risg i hawliau dynol ar lwyfan y byd wedi mynnu ffocws ar y cam sydd angen i Lywodraeth Cymru gymryd, sef sicrhau bod plant Cymru yn dysgu am bwysigrwydd hawliau dynol a’u perthnasedd i’w bywydau dyddiol, a’u bod yn cael gwneud hyn mewn awyrgylch sydd yn parchu hawliau. Mae’n rhaid i hyn gael ei ddiogelu drwy ei wneud yn rhan o’n cyfraith ni yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu bydd yn cael eu cyflwyno yn y Cynulliad yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mae hwn yn gyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth na allwn golli.

Bygythiadau byd-eang i hawliau plant

Ar draws y byd mae sawl achos lle nad yw plant yn derbyn eu hawliau. Eleni yn unig, ar draws y byd rydym wedi gweld plant yn llwgu, wedi’u hanafu neu eu lladd a ddim yn derbyn addysg oherwydd dinistr rhyfel, yn cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni ar ffîn gwlad, yn cael eu saethu mewn ystafelloedd dosbarth, a phlant a’u teuluoedd yn cael eu herlyn dros eu crefydd neu ethnigrwydd. Yn agosach at adre, yma yng Nghymru, gall plant gael eu bwlio oherwydd eu hanableddau, crefyddau, rhywioldeb neu ethnigrwydd, gall fod plant yn cael eu camdrin yn rhywiol ar y stryd neu ar-lein, neu efallai nad ydynt yn medru cael nwyddau angenrheidiol a sylfaenol oherwydd tlodi.

Mae’n rhaid i ni ofyn y cwestiwn, sut mae hyn yn dal i ddigwydd bron tri deg mlynedd wedi i wledydd y byd ymrwymo i warchod plant yn eu gwledydd drwy Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Rhaid i ni barhau gyda’n traddodiad balch o warchod hawliau dynol yng Nghymru drwy sicrhau fod pob dinesydd yn dysgu am eu hawliau ac yn deall nad ydynt yn fater o ‘gywirdeb gwleidyddol’ nac ond yn ‘eiriau neis’ ond yn ryddid sylfaenol wedi eu cytuno arnynt ar sail ryngwladol wedi holl ddinistr yr Ail Ryfel Byd.

Cyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth yng Nghymru

Yma yng Nghymru, mae gennym ni gyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i ddangos arweinyddiaeth ryngwladol drwy osod yr UNCRC yng nghanol addysg pob plentyn drwy’r cwricwlwm newydd.

Cartwn o adeilad ysgol gyda CCUHP wedi ysgrifennu yn y pridd o dan yr ysgol

Rhaid i blant ddysgu am hawliau dynol a dysgu mewn awyrgylch sydd yn parchu eu hawliau fel plant. Byddai hyn yn sicrhau eu bod yn derbyn eu hawliau i fod yn iach a diogel, i gael eu trin yn deg heb wahaniaethau, fod pobl yn gwrando arnynt ac yn eu hanogi i gyrraedd eu llawn botensial. Drwy’r profiadau yma gallwn sicrhau bod ein poblogaeth yn barod i barchu hawliau dynol pobl eraill ac fel dinasyddion ein bod yn amddiffyn a diogelu ein hawliau ni ein hunain yn ogystal â hawliau eraill.

Bydd plant sydd yn dysgu mewn awyrgylch ble mai hawliau dynol pob plentyn yn cael eu parchu yn cael profiad mwy positif, gofalgar a chynhwysol. Mae addysg sydd yn seiliedig ar hawliau yn taclo bwlio ac atal gwahaniaethu, yn hyrwyddo cyd-barch a dealltwriaeth yn ogystal â gweithio i gynorthwyo pob plentyn i gyrraedd eu llawn botensial. Mae plant ac athrawon yn mwynhau perthynas gadarnhaol pan fod hawliau dynol yn cael eu parchu, ac mae ysgolion sydd yn defnyddio system sydd yn seiliedig ar hawliau yn nodi gwelliant mewn ymddygiad a phresenoldeb. Mae rhai plant ar hyn o bryd yn profi triniaeth annheg a gwahaniaethu mewn ysgolion. Trwy osod ymrwymiad i hawliau plant yn ein cyfreithiau addysg, byddai’n rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol gymryd camau pellach i sicrhau fod pob disgybl yn derbyn triniaeth deg.

Yn fyd-eang, mae hawliau dynol dan fygythiad. Mae gennym gyfle i ddangos arweinyddiaeth ryngwladol drwy sicrhau fod gyda ni system addysg yn seiliedig ar hawliau dynol. Cyfle i ddod yn wlad sydd wir yn parchu hawliau pawb. Mae’r cam cyntaf yn glir: gadewch i ni roi’r CCUHP ar glawr blaen y Bil Cwricwlwm ac Asesu newydd.

Os hoffech chi ddarllen mwy am hyn, ewch i’n papur safbwynt.