Ebrill 2026 – Etholiad y Senedd 2026

Mae Mater Mis yma yn ymwneud â’r etholiadau fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru fis nesaf.

Rydyn ni eisiau deall faint mae plant a phobl ifanc yn ei wybod am y Senedd ac am y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau mwyaf yng Nghymru.

  1. Cyn heddiw, oeddech chi’n gwybod am yr etholiad yng Nghymru ym mis Mai? Ble clywsoch chi amdano?​
  2. Ydych chi’n gwybod beth yw Aelod o’r Senedd?​
  3. Ydych chi erioed wedi cwrdd ag Aelod o’r Senedd? Ble?​
  4. Beth fyddai’r ffordd orau i Aelod o’r Senedd newydd wrando ar eich barn?

Linc holiadur a Sleidiau