Cyngor Iechyd meddwl
Os ydych chi eisiau help gyda’ch iechyd meddwl, dyma rhestr o wasanaethau cwnsela ym mhob ardal yng Nghymru.
Diolch i Lywodraeth Cymru am roi y rhestr yma at ei gilydd.
Pobl a gwefannau i’ch helpu
Defnyddiwch y linc isod i weld rhestr o sefydliadau a gwefannau gwahanol sy’n cynnwys help a chyngor iechyd meddwl i bobl ifanc.
Gweld, Clywed, Ymateb Cymru
Mae Gweld, Clywed, Ymateb Cymru yma i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i ymdopi ag argyfwng Covid-19.
Maent yn cynnig atgyfeiriad cyfrinachol ar-lein ac mae ganddynt linell gymorth am ddim.
Meic
Mae Meic yma i wrando arnoch chi os ydych chi’n teimlo’n bryderus neu angen help/cymorth i deimlo’n well.
Gallwch chi gysylltu gyda nhw dros y ffôn neu siarad gyda nhw ar-lein.
Dyma sut mae’r gwasanaeth yn gweithio.
Childline
Mae Childline yma i wrando ar eich pryderon ac i rhoi cymorth i chi ar sut i ymdopi.
Dyma sut mae’r gwasanaeth yn gweithio.
Papyrus
Mae Papyrus yn elusen genedlaethol sy’n atal hunanladdiad ifanc ledled y DU. Maent yn darparu cefnogaeth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc sy’n cael trafferth â meddyliau am hunanladdiad, ac unrhyw un sy’n poeni am berson ifanc.
Mind
Mae’r elusen iechyd meddwl Mind wedi creu tudalen newydd i bobl ifanc sy’n pryderu am y coronafeirws.
Young minds
Mae cyngor yna gan Young Minds i’ch helpu chi ymdopi yn ystod y cyfnod yma
Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu adnodd ar-lein sy’n hyrwyddo’r adnoddau digidol niferus sydd wedi cael eu gynllunio’n benodol i gefnogi pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl dros y cyfnod heriol yma.
Mae’r pecyn cymorth yma’n cysylltu pobl ifanc rhwng 11-25 oed gyda gwefannau, apiau a llinellai cymorth er mwyn adeiladu ystwythder ac i’w cefnogi drwy bandemic y Coronafeirws a thu hwnt.
Platfform4YP
Mae Platfform4YP yn brosiect sydd wedi i’w gwneud gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae’r wefan yma yn rhoi’r cyfle i fobl ifanc gael clywed eu lleisiau ac i rannu eu straeon a’u syniadau gyda’u gilydd a’r byd.
Mae’r cynnwys sydd yn eich helpu gyda’ch iechyd meddwl yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.
Llamau – Di-Gartrefedd pobl ifanc
Os ydy di-gartrefedd yn peri risg i chi, ffoniwch llinell gymorth Llamau.
Delio ag emosiynau cymysg y cyfnod cloi
Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan was creu poster defnyddiol sy’n esbonio sut i delio ag emosiynau cymysg yn ystod cyfnodau clo a thrwy’r pandemig. Cliciwch i linc i lawrlwytho.