Astudiaethau Achos – Bwrdd Iechyd

Mae sefydliadau yng Nghymru yn gwella eu gwasanaethau i blant a phobl ifanc trwy wrando ar eu syniadau, siapio eu gwaith yn ôl eu hadborth, a thrwy gydnabod a hyrwyddo eu hawliau dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Dyma crynodeb o ddarnau arbennig o waith sy’n digwydd ledled Cymru.

Os ydych chi eisiau cyngor neu cymorth ar waith eich sefydliad chi gyda phlant a phobl ifanc, cysylltwch gyda ni.

Aneurin Bevan

Ym mis Ebrill 2019, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd y bwrdd iechyd cyntaf i ymuno â Siarter Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc, a gwobrwyd hwy yn ddiweddar gan y Prif Weinidog gyda Nod Cutan Cyfranogiad Cenedlaethol Plant.

Mae nhw’n archwilio cyfleoedd i gyd-weithio â fforymau ieuenctid lleol sy’n bodoli ar hyn o bryd ar draws dalgylch y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys grŵp ieuenctid sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Serennu Casnewydd, a Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol.

Mae Aneurin Bevan wedi sefydlu Fforwm Hawliau a Chyfranogaeth Plant, ac wedi trefnu bod y staff yn derbyn hyfforddiant ar gyfer hawliau plant.

Yn ogystal â hyn, mae Aneurin Bevan wedi bod yn gweithio i ddarparu cynnig dadleuwriaeth mwy cyffredinol i blant a phobl ifanc o fewn lleoliadau iechyd.

Darllenwch Astudiaeth Achos BAYouth

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Panel Ymgynghorol Ieuenctid Bae Abertawe yw BAYouth. Sefydlwyd y Panel, sef ABMYouth gynt, yn 2017 ac mae’n cynnwys rhyw 20 o bobl ifanc. Maen nhw’n cyfarfod yn fisol ac mae ganddyn nhw lawer o lwyddiannau i’w rhannu, gan gynnwys eu gwaith ar yr ‘her 15 cam’, lle buon nhw’n ymweld â lleoliadau iechyd gwahanol o gwmpas ardal y bwrdd iechyd i weld pa argraff mae pobl ifanc yn ei chael yn eu 15 cam cyntaf i mewn i’r lleoliadau hynny. Mae aelodau o’r Panel yn rhan o baneli cyfweld sy’n recriwtio gweithwyr iechyd proffesiynol.

Darllenwch Astudiaeth Achos BAYouth

Siarter Hawliau Plant

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg gynt) oedd y Bwrdd Iechyd cyntaf i ddatblygu Siarter Hawliau Plant, yn 2017. Bellach, maen nhw’n datblygu fersiwn ddarluniadol o’r siarter ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, gan weithio gydag ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig yn ardal y Bwrdd Iechyd.

Mae gwaith Ieuenctid y Bae (Bay Youth) yn cynnwys y canlynol:

  • Adroddiad ar wasanaethau pediatrig yn Ysbyty Treforys
  • Bod yn rhan o’r panel cyfweld a chael llais cyfartal ynghylch penodi aelodau newydd o staff
  • Galw am linell gymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed ac arwain at sefydlu’r llinell honno.
  • Gwaith yng nghyswllt poster gofal pediatregol
  • Adolygu’r Siarter Hawliau Plant

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Cyhoeddodd y bwrdd iechyd Siarter Hawliau Plant ar ddiwrnod Byd Eang y Plant 2018.

Mae’n nodi yr addewidion mae’r bwrdd yn gwneud i bob plentyn a pherson ifanc sy’n defnyddio ei wasanaethau, ac yn eu cysylltu gyda hawliau plant dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae ganddyn nhw Bwrdd Ieuenctid actif, gyda 30 person ifanc gydag amrywiaeth eang o brofiadau a chefndiroedd.

Mae eu gwaith yn cynnwys dylanwadu ar ddulliau ymgynghori â chleifion, cyfweld â staff, a chyfrannu at welliannau i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

DARLLENWCH ASTUDIAETH ACHOS CAERDYDD A’R FRO

Betsi Cadwaladr

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhannu un ffordd y maent yn cefnogi hawliau plant a phobl ifanc i leisio’u barn (Erthygl 12) o fewn ysbyty Glan Clwyd.

Mae’r fideo’n dangos sut mae nhw’n defnyddio ‘Pump Uchel Pump Isel’ i roi’r cyfle i blant lleisio eu barn tra’n aros yn yr ysbyty. Mae’n ddull adborth a ddefnyddiwyd gan y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc gyfle i ddweud beth sydd ar eu meddyliau mewn ffordd hawdd a gafaelgar. Wrth ddefnyddio’r dull ‘Pump Uchel, Pump Isel’ mae’r staff yn ymwybodol pa bethau sydd angen eu gwella ar y ward.

Iechyd Cyhoeddus Cymru

The national public health agency has produced Young People’s Annual Quality Statements, held its first ever Public Health Youth Summit, and created a new Young Ambassadors programme.

Mae’r asiantaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol wedi creu Datganiad Ansawdd Blynyddol i Bobl Ifanc, cynnal ei Uwchgynhadledd gyntaf i Ieuenctid

DARLLENWCH ASTUDIAETH ACHOS IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi bod yn edrych ar eu polisïau ynglyn â galwadau brys a phan fydd parafeddygon yn trin cleifion.

Cynhaliwyd ymarferiad ymgysylltu enfawr gan yr Ymddiriedolaeth o fewn gwahanol fannau ledled Cymru, yn nodi’r meysydd o ran teimladau pobl ifanc sut y gallai’r Ymddiriedolaeth wella’i ymadwaith â phobl ifanc.

Un o’r materion a godwyd oedd bod geiriad y sgriptiau a ddefnyddir wrth ateb galwadau brys neu drin cleifion yn gallu bod yn anodd i blant a phobl ifanc i’w deall.

Cynhaliwyd ymgynghoriad gan y gwasanaeth er mwyn cynnig geiriau eraill wrth ryngweithio â phlant a phobl ifanc.

Ymrwymodd y gwasanaeth i gyfres o addewidion (wedi’u cydgynhyrchu â phlant) sy’n ceisio ymateb yn well i anghenion plant a phobl ifanc. Hefyd, mae’r gwaith yn parhau i sicrhau fersiynau hawdd i’w darllen o ran dogfennau, a’r defnydd o gymeriadau darluniadol i’w gwneud yn haws i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu penodol eu deall.

Dyma boster yn dangos cyfres o’r addewidion:

WAST – ADDEWIDION I BLANT

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Yn haf 2018, cynhaliodd Powys weithdai ar y cyd â’r awdurdod lleol er mwyn ymgynghori ar is-grŵp plant a phobl ifanc y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, sef Dechrau Da, a Fforwm Ieuenctid Powys.

Arweiniodd y gweithdai hyn at fersiwn ddrafft o ‘Adduned Plant a Phobl Ifanc’. Penderfynodd y bobl ifanc eu hunain fod yn well ganddynt ddefnyddio’r gair adduned yn hytrach na siarter.

Maen nhw’n gobeithio cyhoeddi’r Adduned yn fuan.

Siarter Plant

Datblygwyd y Siarter Plant yn 2021 ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gan gynnwys dros 200 o blant a phobl ifanc.

Siarter Hawliau Plant

Siarter Hawliau Plant – Arabeg 

Siarter Hawliau Plant – Pwyleg