Panel Ymgynghorol Oedolion

Rydyn ni’n recriwtio! Deuddeg newydd Annibynnol (Anweithredol) i fod yn rhan o Banel Ymgynghorol Oedolion y Comisiynydd Plant

Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes MBE yw deilydd y swydd statudol, annibynnol sy’n diogelu ac yn hybu hawliau plant yng Nghymru. Mae’r Comisiynydd Plant yn gwrando ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, ac yn codi llais ar eu rhan er mwyn amddiffyn hawliau plant, a chefnogi, herio a dylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant.

Wrth i’r Comisiynydd gychwyn ar ei strategaeth tair blynedd newydd ‘Gwireddu Hawliau Plant’, bydden ni wrth ein bodd yn cael hyd i aelodau ar gyfer ein Panel Ymgynghorol Oedolion sy’n gallu ein helpu i gyflawni’r strategaeth hon, ac sydd mor angerddol â ni ynghylch cyflawni canlyniadau cadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydyn ni’n chwilio am ddeuddeg aelod newydd annibynnol i ymuno â’n Panel Ymgynghorol Oedolion er mwyn craffu ar waith y Comisiynydd Plant, ei herio, a rhoi cyngor annibynnol ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio cylch gorchwyl a phwerau’r Comisiynydd er mwyn cael yr effaith fwyaf o ran gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Gan adrodd yn uniongyrchol i’r Comisiynydd, bydd gofyn bod yr aelodau’n cynorthwyo’r Comisiynydd a’i thîm gyda’r canlynol:

  • cyfeiriad strategol y sefydliad;
  • craffu ar weithrediad y cynlluniau strategol tair blynedd a’r cynlluniau gwaith blynyddol;
  • monitro ac adolygu perfformiad gweithredol a sicrhau effeithiolrwydd

Rydyn ni am ehangu ein dealltwriaeth o brofiadau plant a phobl ifanc, datblygu gweithle lle mae gwahaniaeth yn cael ei werthfawrogi, a deall persbectif pobl sydd ag ystod eang o nodweddion. Rydyn ni’n croesawu’n gynnes geisiadau gan bobl sydd ag ystod eang o brofiadau a nodweddion gwarchodedig.

Bydd yr Aelodau’n cyfrannu arbenigedd a gwybodaeth penodol, a bydd gofyn bod ganddynt y canlynol

  • gallu i ddylanwadu ar sefydliadau, ac ymgysylltu â nhw ar lefel uwch er mwyn hybu newid cadarnhaol;
  • gwybodaeth am rôl, cylch gwaith, pwerau a dyletswyddau’r Comisiynydd;
  • gwybodaeth am lywodraethiant sefydliadol a phrofiad ohono;
  • gwybodaeth am y tirlun diwylliannol a dwyieithog yng Nghymru, a dealltwriaeth o sut gallwch chi gyfrannu’n effeithiol at y pwyllgor yn y cyd-destun hwn.

Yn ogystal â’r meini prawf uchod, bydd gan yr aelodau hefyd hanes diamheuol mewn UN o leiaf o’r meysydd canlynol:

  • gweithio’n ddylanwadol ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r sector gwirfoddol;
  • gwybodaeth am wasanaethau sy’n berthnasol i blant, pobl ifanc a theuluoedd;
  • gwybodaeth a phrofiad o’r broses o lunio polisi ar lefel leol a chenedlaethol a phrofiad ohoni;
  • gwybodaeth drylwyr (neu ymrwymiad i gasglu gwybodaeth) am Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn a dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant;
  • profiad o weithio gydag allfeydd cyfryngau lleol a chenedlaethol;
  • dealltwriaeth o Gymru, yr iaith Gymraeg, a diwylliant Cymru; neu’r
  • gallu i gyfathrebu yn Gymraeg.
  • Arbenigedd proffesiynol a/neu brofiad bywyd o dlodi a/neu nodwedd warchodedig.

Bydd y penodiad am gyfnod o dair blynedd, a gwahoddir yr aelodau i ymgymryd â’u gwaith ddiwedd mis Medi 2026. Yr ymrwymiad amser ar gyfer y rôl hon yw 5 diwrnod y flwyddyn, gyda 4 cyfarfod y flwyddyn, a fydd yn gyfuniad o gyfarfodydd hybrid a rhai wyneb yn wyneb, y bydd disgwyl i chi fod yn bresennol ynddynt. Ni roddir tâl am y rôl, ond cewch ad-daliad am eich treuliau teithio a chynhaliaeth. Cewch ragor o wybodaeth yn y disgrifiad o’r rôl.

I gyflwyno cais am y cyfle hwn, cyflwynwch CV a datganiad ategol (dim mwy na 500 o eiriau) i recriwtio@complantcymru.org.uk yn nodi eich addasrwydd ar gyfer y rôl, a’r hyn y byddech yn ei gyfrannu petaech chi’n llwyddiannus, gyda manylion unrhyw wybodaeth, sgiliau a phrofiad perthnasol.

Gofynnir i chi gyflwyno’ch cais erbyn 17:00 ar 27 Awst.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau tîm sy’n cynrychioli’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, ac felly rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a dangynrychiolir yn ein tîm ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r Rôl a Chylch Gorchwyl

Pam ymuno â’r Panel Cynghori i Oedolion?