Panel Cynghori’r Comisiynydd

Mae’r cyfle yma nawr wedi cau.

I dderbyn cyfleoedd yn uniongyrchol yn y dyfodol, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr ar waelod y dudalen.

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn penodi aelodau newydd i’w phanel ymgynghorol.

Mae’n panel yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n gyffrous ynghylch y posibilrwydd o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac sydd eisiau rhannu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiadau bywyd gyda’n tîm.

Mae’r panel yn cyflawni rôl allweddol yn llywodraethiant swyddfa’r Comisiynydd, ac yn gweithredu fel seinfwrdd, gan roi cyngor ymarferol i’r Comisiynydd a’r tîm er mwyn sicrhau bod ein cynllun tair blynedd newydd, uchelgeisiol yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus.

Cewch ragor o fanylion am rôl y Panel yma, yn ein dogfen Cylch Gorchwyl (PDF).

Rydyn ni am benodi rhwng 12 ac 18 o aelodau newydd i’r panel trwy broses gystadleuol agored.

Mae’n hanfodol bod gennych chi wybodaeth am faterion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw, yn arbennig addysg, iechyd (gan gynnwys iechyd meddwl), tlodi, technoleg a bywydau ar-lein, cydraddoldeb, profiad o ofal, diogelu, hil, ffoaduriaid, LHDTC+, anabledd, Sipsiwn, Roma, Teithwyr ac agwedd gadarnhaol at weithio ar y cyd â phobl ifanc.

Rydyn ni’n credu’n angerddol mewn creu gweithlu a phaneli ymgynghorol amrywiol, ac rydyn ni’n mynd ati i annog ceisiadau o gymunedau a dangynrychiolir. Rydyn ni’n croesawu cyfle cyfartal, ac yn ceisio bod yn gynhwysol o ran anabledd, niwroamrywiaeth, tarddiad ethnig, hil, cenedl, rhywedd a chyflwyniad rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.

I wneud ymholiadau anffurfiol am y cyfle hwn, cysylltwch â Sara Jermin ar 01792 765600, neu e-bostiwch post@complantcymru.org.uk

Gwybodaeth ychwanegol

  • Bydd y penodiadau am gyfnod o dair blynedd, yn cychwyn ym mis Gorffennaf 2023
  • Ni fydd tâl am y rôl, ond cewch ad-daliad am unrhyw dreuliau a ddaw i’ch rhan.
  • Mae angen i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli yng Nghymru.
  • Mae angen hefyd i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn.
  • Fel comisiynydd annibynnol, allwn ni ddim derbyn ceisiadau gan unigolion sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd mewn rôl uwch gan sefydliad y gallai’r Comisiynydd ei adolygu o dan ei phwerau statudol, na chan aelodau etholedig, gan gynnwys cynghorwyr lleol, Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol. Mae rhagor o wybodaeth ym Mhroffil y Rôl (PDF) am wrthdaro buddiant.
  • Fyddwn ni ddim yn penodi mwy nag un person o unrhyw sefydliad.

Os ydych chi’n ansicr a fyddai’r rôl hon yn addas i chi, mae croeso i chi drafod gyda ni.

Gwneud cais

I gyflwyno cais, e-bostiwch y ddogfen ganlynol i recriwtio@comisiynyddplant.cymru erbyn 0900 ar 26 o Fehefin 2023.

Allwn ni ddim derbyn ceisiadau hwyr. Wrth gyflwyno cais, nodwch ‘Cais Panel Ymgynghorol’ ym mlwch testun yr e-bost. Gofynnir i chi ddarparu:

  1. CV (heb fod yn hwy na dwy ochr o A4) yn nodi hanes eich gyrfa, eich cyflawniadau ac unrhyw benodiadau neu swyddi cyhoeddus sydd gennych ar hyn o bryd. Os gall eich profiad bywyd ein helpu i ehangu amrywiaeth ein panel ymgynghorol, dywedwch wrthyn ni amdanoch eich hun yn eich datganiad personol.
  2. Datganiad personol (heb fod yn hwy na 400 o eiriau) yn darparu tystiolaeth ynghylch pam rydych chi’n addas, ar sail Proffil y Rôl (PDF)
  3. Ffurflen monitro amrywiaeth (Agor mewn Dogfen Word) 

Bydd pob cais yn cael ei ystyried gan banel fydd yn cynnwys y Comisiynydd Plant, Pennaeth Polisi’r Comisiynydd, Pennaeth Adnoddau Dynol a Phennaeth Cyfathrebu a Pherfformiad.

Oherwydd poblogrwydd ein cyfleoedd, efallai na fydd yn bosib rhoi adborth ar geisiadau aflwyddiannus.

Diogelu Data

Bydd yr holl ddata personol rydych chi’n ei ddarparu yn cael ei brosesu fel y nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd (PDF). Bydd yr holl ddogfennau sy’n ymwneud â cheisiadau aflwyddiannus yn cael eu dinistrio o fewn 12 mis, fan bellaf, wedi’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Bydd yr hysbysiad ynghylch y penderfyniad a’r taflenni sgorio yn cael eu dinistrio ar ôl 12 mis.

Bydd manylion yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael eu cadw’n ddiogel yn ystod eu cyfnod o wasanaeth, ac am hyd at 12 mis wedi iddyn nhw adael y swydd.