Ymateb y Comisiynydd i Adroddiad Adolygiad Annibynnol MAPF – Ysgol Dyffryn Aman

Yn ymateb i Adroddiad Adolygiad Annibynnol MAPF, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Mae’r adroddiad heddiw yn tynnu sylw at rai materion allweddol yr wyf wedi siarad amdanynt o’r blaen, ynghylch cefnogaeth i blant wrth iddynt aros am asesiadau a gwasanaethau, a’r pwysau sydd ar ysgolion i ddiwallu anghenion cynyddol gymhleth, yn enwedig ers y pandemig.

“Yn gynharach eleni roedd uwchgynhadledd ymddygiad Llywodraeth Cymru yn cydnabod y materion hyn ac fe ddechreuodd sgwrs ar beth sydd angen digwydd i bob dysgwr i deimlo ei fod yn gefnogol ac yn ddiogel yn yr ysgol.  Mae’r adroddiad hwn yn rhoi rhai argymhellion clir i fynd â’r materion hyn ymlaen a byddaf yn trafod gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i sicrhau bod adnoddau a systemau yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob plentyn yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.”