Comisiynydd yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth ar addysgu yn y cartref

1 Chwefror 2018

Ym ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth ynglyn ag addysgu yn y cartref, dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Rydw i wedi cael tri nod wrth alw am fwy o reolau statudol o addysg cartref yng Nghymru. Yn gyntaf, i sicrhau bod dim plentyn yng Nghymru yn byw yn anweledig o wasanaethau a chymdeithas yn gyffredinol. Yn ail, bod pob plentyn yn derbyn addysg addas, a bod ganddyn nhw fynediad i’w hawliau dynol, yn cynnwys gofal iechyd a diogelwch. Dydy hyn ddim yn bosib heb y trydydd nod: dylai pob plentyn gael y cyfle i fynegi ei farn ac i rannu ei brofiadau am ei addysg.

“Rwyf wedi cael fy annogi gan gydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod y system cyfoes ddim yn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn derbyn lefel addas o addysg a bod pob plentyn yn ddiogel. Ond ar hyn o bryd, heb y manylion, dydy fy ngalwadau i Lywodraeth ddim yn newid.

“Rydw i’n disgwyl gweld Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant manwl o’r cynlluniau. Os ydy’r asesiad yn dangos bod y mesurau sydd wedi’u cynnig ddim yn cyflawni’r bwriadau rydw i wedi’u hamlinellu wedyn byddaf yn disgywl i’r Llywodraeth i ystyried mesurau pellach, yn cynnwys deddfwriaeth newydd. Pe bae hyn ddim yn digwydd, rydw i wedi gwneud hi’n glir i’r Llywodraeth y byddaf yn ystyried defnyddio fy mhwerau statudol i adolygu ei phenderfyniadau.

“Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at weld manylion pellach o sut bydd awdurdodau lleol yn cael eu hariannu i weithredu’r pecyn o gefnogaeth i deuluoedd sy’n addysgu o gartref.”