Beth yw hawliau plant?
Mae gan bob plentyn a pherson ifanc 42 o hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Mae’r 42 hawl hyn yn rhoi’r hyn sydd angen arnat i dyfu i fyny i deimlo’n hapus, yn iach ac yn ddiogel.
Mae gennyt ti hawl i fod yn ddiogel, i gael addysg, a’r hawl i gael dy gymryd o ddifri.
Pa hawliau sydd gennyt ti?
Bydd y posteri yma, a’n fideo, yn helpu ti ddysgu mwy am dy hawliau:
Beth ddylset ti wneud os nad wyt ti’n cael dy hawliau?
Mae gennym dîm wrth law i dy helpu di.
Os wyt ti’n chwilio am help, cer i’n tudalen cyngor.
Y Comisiynydd
Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru.
Dechreuodd ei swydd ym mis Ebrill 2022 a bydd hi’n Gomisiynydd Plant am saith mlynedd.
Ei swydd yw gwrando ar y pethau sy’n bwysig i chi, ac i ddweud wrth bobl eraill beth ddylen nhw ei wneud i wella bywydau i blant a phobl ifanc.
Mae hi wedi cael llawer o swyddi gwahanol, yn cynnwys rhedeg elusen a bod yn athrawes.
Mae Rocio yn siarad Sbaeneg a Saesneg, ac yn dysgu Cymraeg.
Daeth Rocio i Gymru fel ffoadur pan roedd hi’n babi gyda’i rhieni. Roedden nhw’n ffoi cyfundrefn Pinochet yn Chile yn yr 1970au. Yn y fideo yma, mae Rocio yn adrodd ei stori: