Beth sy’n wir a beth sy’n ffug ar-lein? Holiadur Ciplun o Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru
Mae fersiwn wedi ei ddylunio ar y PDF yma
Cyflwyniad
Yn ystod mis Chwefror 2025 gofynnon ni i blant a phobl ifanc a oeddent yn gwybod beth oedd yn wir neu’n ffug ar-lein.
Roedd yr holiadur yn rhan o gyfres o gwestiynau ar wahanol bynciau rydyn ni’n eu gofyn i blant a phobl ifanc bob mis, dan yr enw Mater y Mis, er mwyn clywed eu barn ar amrywiaeth o bethau.
Cafodd ei rannu’n uniongyrchol â’r holl ysgolion sy’n rhan o’n cynlluniau hawliau plant ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol. Fel rhan o becyn yr holiadur, dangoson ni fideo i’r plant a’r bobl ifanc, yn cyflwyno’r pwnc, a gofynnwyd iddyn nhw ystyried rhai cwestiynau fel os oeddent erioed wedi credu rhywbeth gwelsant ar-lein a droiodd allan i fod yn rhywbeth ffug a beth y gallant wneud i weld os yw rhywbeth yn wir ai peidio. Yn yr amlinelliad ar gyfer y sesiwn, roedden ni’n awgrymu, ar ôl gweld y fideo, y dylai plant a phobl ifanc gael amser i drafod eu barn gyda’i gilydd cyn ateb yr holiadur. Roedd gan ysgolion ddau opsiwn ar gyfer cwblhau’r holiadur; gallai plant a phobl ifanc ei wneud yn annibynnol, neu gallai athro gwblhau’r holiadur ar ran y grŵp, gan ateb set wahanol o gwestiynau i roi trosolwg o’r drafodaeth.
Atebodd 569 o blant a phobl ifanc yr holiadur yn unigol. Bu 292 o blant eraill yn cymryd rhan mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn. Cymerodd ystod eang o oedrannau ran, o blant o dan 6 i rai at 18 oed. Derbyniwyd ymatebion gan ysgolion a grwpiau o fewn 19 awdurdod lleol.
Datblygwyd y cwestiynau gan dîm staff profiadol y Comisiynydd ar sail themâu oedd wedi dod i’r amlwg mewn ymarferion ymgysylltu blaenorol gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.
Cwestiynau i’r plant a bobl ifanc
Atebion Oedran Cynradd:
Wyt ti wedi gweld rhywbeth ffug (fake) arlein o’r blaen?
Ydw (266) – 67%
Dwi ddim yn siwr (95) – 24%
Nac ydw (38) – 10%
Taset ti’n gweld rhywbeth ffug arlein, beth faset ti’n ei wneud? (Rwyt ti’n gallu dewis mwy nag un ateb)
Dweud wrth oedolyn (rhiant neu athro) (253) – 65%
Anwybyddu fe (185) – 47%
Reportio fe i’r gwefan/platfform (137) – 35%
Dweud wrth ffrind (79) – 20%
Dwi ddim yn gwybod/rhywbeth arall (36) – 9%
Os rwyt ti’n gweld rhywbeth arlein sydd yn teimlo’n ryfedd, sut wyt ti’n gwybod os ydy e’n wir neu beidio? (Rwyt ti’n gallu dewis mwy nag un ateb)
Gweld os ydy gwefannau neu blatfformau eraill yn dweud yr un peth (224) – 56%
Gofyn i athro/athrawes (214) – 54%
Gofyn i deulu neu ffrindiau (160) – 40%
Edrych ar bwy sydd wedi ysgrifennu neu greu y post (136) – 34%
Dwi ddim yn gwybod (51) – 13%
Rhywbeth arall (45) – 11%
Dwi wastad yn credu bod pethau’n wir (10) – 3%
Wyt ti’n meddwl bod hi’n hawdd i gredu rhywbeth arlein sy’n ffug?
Ydw (195) – 52%
Nac ydw (101) – 27%
Dwi ddim yn gwybod (79) – 21%
Wyt ti wedi rhannu rhywbeth arlein o’r blaen ac wedyn wedi sylweddoli bod e’n ffug?
Nac ydw (240) – 62%
Dwi ddim yn siwr (90) – 23%
Ydw (59)- 15%
Beth oedd e?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Newyddion ffug / gwybodaeth ffug am ffeithiau/gemau
- Fideos ffug
- Wedi’i twyllo / hacio
Beth wyt ti’n meddwl gall blatfformau a gwefannau ei wneud er mwyn helpu pobl i wybod beth sy’n wir neu ffug arlein? (Rwyt ti’n gallu dewis mwy nag un ateb)
Cael gwared ar wybodaeth ffug (245) – 62%
Gwneud hi’n haws i ffeindio mas os yw gwybodaeth yn wir neu beidio (211) – 53%
Creu fideos a thudalennau wê i helpu pobl i allu ffeindio gwybodaeth ffug (161) – 41%
Gadael i bobl reportio gwybodaeth ffug yn hawdd (135) – 34%
Rhywbeth arall (72) – 18%
Atebion Oedran Uwchradd:
Wyt ti wedi gweld rhywbeth ffug (fake) arlein o’r blaen?
Ydw (75) – 49%
Dwi ddim yn siwr (56) – 36%
Nac ydw (23) – 15%
Beth oedd e?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Sibrydion am enwogion (celebrities)
- Ddim yn cofio / ddim yn gwybod
- Storïau / newyddion ffug
Taset ti’n gweld rhywbeth diddorol arlein a oedd yn edrych/swnio’n ffug, beth fyset ti’n ei wneud? (Rwyt ti’n gallu dewis mwy nag un)
Anwybyddu fe (104) – 68%
Edrych ar blatfform/gwefan arall i ffeindio mas os ydy e’n wir (57) – 37%
Gofyn i oedolyn (39) – 25%
Reportio fe (20) – 13%
Rhannu fe gydag eraill ta beth (11) – 7%
Rhywbeth arall/ dwi ddim yn gwybod (9) – 6%
Gofyn i athro/athrawes am help (5) – 3%
Sut wyt ti fel arfer yn gweithio mas os ydy rhywbeth rwyt ti’n gweld arlein yn wir neu beidio? (Rwyt ti’n gallu dewis mwy nag un ateb)
Dwi’n edrych ar blatfformau/gwefannau eraill (71) – 48%
Dwi’n edrych ar bwy sydd wedi ei bostio/creu (59) – 40%
Dwi’n gofyn i deulu neu ffrindiau (55) – 37%
Dwi ddim yn gwybod/rhywbeth arall (26) – 18%
Dwi fel arfer yn awgrymu bod popeth yn wir (16) – 11%
Dwi’n gofyn i athro (9) – 6%
Wyt ti’n meddwl bod e’n hawdd i gredu rhywbeth ffug arlein?
Ydw (112) – 74%
Dwi ddim yn gwybod (22) – 15%
Nac ydw (18) – 12%
Wyt ti wedi rhannu rhywbeth arlein o’r blaen ac wedyn wedi sylweddoli bod e’n ffug?
Nac ydw (78) – 51%
Dwi ddim yn siwr (47) – 31%
Ydw (27) – 18%
Beth oedd e?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Newyddion ffug
- Ddim yn gwybod
- Tocynnau cyngerdd
Beth sy’n gwneud e’n haws i gredu rhywbeth arlein? (Rwyt ti’n gallu dewis mwy nag un ateb)
Os ydy e’n dod o wefan neu gyfrif rydw i’n gyfarwydd â (111) – 72%
Mae’n edrych yn broffesiynol (er enghraifft sut mae e wedi ei ddylunio) (50) – 33%
Mae’n gyfateb gyda rhywbeth rydw i’n credu yn barod (47) – 31%
Mae e wedi cael ei rannu gan ffrindiau neu bobl rydw i’n adnabod (40) – 26%
Mae e wedi cael ei rannu gan bobl enwog (35) – 23%
Rhywbeth arall/dwi ddim yn gwybod (15) – 10%
Beth wyt ti’n meddwl dylai cwmniau cymdeithasol a gwefannau ei wneud i stopio gwybodaeth ffug? (Rwyt ti’n gallu dewis mwy nag un ateb)
Rhoi labelu ar bostiau gwahanol sy’n rhybuddio pobl bod nhw efallai yn ffug (94) – 61%
Cael gwared ar bostiau sydd yn ffug (87) – 57%
Gadael defnyddwyr i reportio gwybodaeth ffug yn hawdd (43) – 28%
Helpu pobl i ddysgu sut i weithio mas beth sy’n ffug neu beidio (40) – 26%
Rhywbeth arall (8) – 5%
Beth wyt ti’n meddwl dylen nhw ei wneud?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Peidio postio newyddion ffug
- Ddim yn gwybod
- Dileu’r post
Cwestiynau i athrawon
Sut oedd y grwp yn gwybod beth sy’n go iawn neu’n ffug arlein?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Edrych ar ffynonellau o wybodaeth arall
- Ddim yn teimlo’n realistig
- Defnyddio gwybodaeth eu hunain
Ydyn nhw wedi credu rhywbeth o’r blaen a wedyn dysgu ei fod yn ffug?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Ydyn, ac wedi ymateb gydag enghreifftiau
- Ymateb cymysg
Beth oedd y ffyrdd gorau i weithio mas os yw rhywbeth yn go iawn neu beidio, yn ôl y grwp?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Defnyddio gwefan / dolen / adnoddau dibynadwy
- Ymchwilio’r wybodaeth
- Gofyn i riant
Oedd gyda nhw unrhyw syniadau neu sylwadau eraill?
Dyma themâu’r atebion mwyaf cyffredin:
- Rhaid bod yn ofalus ar-lein
Diweddglo
Er bod nifer gymharol isel o blant a phobl ifanc a gymerodd rhan yn yr holiadur wedi dweud wrthym eu bod wedi rhannu rhywbeth ar-lein a ddarganfuwyd yn ddiweddarach ei fod yn anghywir (18% o ddysgwyr ysgolion uwchradd a 15% o gynradd), dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr wrthym eu bod wedi gweld gwybodaeth y gwnaethant ddarganfod yn ddiweddarach i fod yn wybodaeth ffug.
Mae dros hanner (52%) o ddisgyblion ysgolion cynradd, a 74% o ddisgyblion ysgolion uwchradd, yn meddwl bod hi’n hawdd i gredu fod rhywbeth yn ffug ar-lein. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos i ni fod mwyafrif o blant a phobl ifanc wedi gweld gwybodaeth ffug ar-lein.
Fodd bynnag, dywedodd llai na hanner o ddisgyblion ysgol uwchradd eu bod wedi cymryd camau i wirio’r ffynhonnell neu chwilio am ffynonellau amgen, gyda 68% yn dweud y byddent yn ei anwybyddu ac yn parhau i sgrolio.
Mae’r mwyafrif eisiau i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol neu wefannau gymryd camau i ychwanegu rhybuddion i’r cynnwys, neu i ddileu cynnwys sy’n gamarweiniol.
Rydym wedi rhannu canlyniadau’r holiadur hwn gydag Ofcom i lywio eu gwaith diogelwch ar-lein parhaus ac i swyddfeydd Comisiynwyr Plant eraill y DU wrth i ni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â phryderon diogelwch ar-lein.