PWYSIG: Os ydych yn ffonio mewn argyfwng, neu os yw plentyn, person ifanc neu unrhyw un arall mewn perygl, ffoniwch 999
Manylion Cyswllt
Cysyllyta gyda ni’n RHAD AC AM DDIM
Ffôn: 01792 765600
Rhadffôn: 0808 801 1000
Mae’r tîm cyngor ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10yb a 4yp
Rhai materion y gallwn ni helpu eich gyda
Er ein bod yn ceisio eich helpu gydag unrhyw faterion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, mae meysydd rydym yn aml yn helpu gyda nhw yn cynnwys:
- Hawliau addysgol
- Gwasanaethau cymdeithasol
- Mynediad iechyd
- Cwynion
Er bod llawer o bethau y gallwn ni eich helpu chi gyda, ni allwn eich helpu gyda popeth.
Ni allwn:
- Ymyrryd ag unrhyw achosion cyfreithiol, gan gynnwys achosion llys a phenderfyniadau a wneir gan CAFCASS Cymru
- Ymyrryd â materion yr heddlu
- Cynnig gwasanaeth brys
- Cynnig gwasanaeth cwnsela ein hunain
- Cymryd rhan mewn materion eraill sydd heb eu datganoli
Pwy gallwn ni helpu
Rydyn ni’n gallu cynnig help sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc hyd at 18 oed, neu hyd at 21 oed os oes ganddyn nhw brofiad o ofal, neu hyd at 25 oed os oes ganddyn nhw brofiad o ofal ac maen nhw’n dal ym myd addysg.
Ein pwerau cyfreithiol
Os ydych chi eisiau dysgu mwy am ein pwerau cyfreithiol, gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth yma.
Beth rydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth rydych yn rhoi i ni
Byddwn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni yn gyfrinachol, oni bai ein bod ni’n meddwl bod beth rydyn ni’n ei glywed yn awgrymu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gael niwed – os felly, byddwn ni’n rhannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill sy’n gallu helpu i amddiffyn y plentyn.
Darllenwch fwy am beth rydyn ni’n gwneud gyda’ch wybodaeth bersonol
Gwneud cwyn amdanom ni
Mae modd gwneud cwyn amdanom ni ar y dudalen yma.