Crynodeb o’r wybodaeth allweddol
- Prosiect – Adolygu’r dystiolaeth a gwneud gwaith ymchwil i lywio Cynllun Strategol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2026-29
- Ceisiadau i’w hanfon at Ceirios Chesters
- Trafodaeth ymlaen llaw – Sara Jermin neu Teleri Davies (01792 765600)
- Gwaith i’w gwblhau erbyn 1 Hydref 2025
- Uchafswm ffioedd yr ymgynghoriaeth – £25,000 yn cynnwys TAW
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 18 Gorffennaf 2025
- Cyfweliadau i apwyntio ymgeiswyr llwyddiannus: wythnos yn cychwyn 28 Gorffennaf 2025
- Dyfarnu’r Contract Llwyddiannus: 1 Awst 2025
Comisiynydd Plant Cymru
Mae Comisiynydd Plant Cymru a’i thîm yn diogelu ac yn hybu hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio dros bob plentyn yng Nghymru hyd at 18 oed, neu hyd at 21 oed os oes ganddyn nhw brofiad o ofal, a hyd at 25 oed os oes ganddyn nhw brofiad o ofal ac maen nhw’n dal mewn addysg.
Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru ar hyn o bryd, a’i diffiniad hi o’r weledigaeth ar gyfer ei chyfnod yn y swydd yw: ‘Cymru lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn deall eu hawliau, yn gwybod bod y comisiynydd plant yno i sefyll dros yr hawliau hynny, ac yn gallu cyrchu cefnogaeth i wireddu’r hawliau hynny’.
Ein cenhadaeth yw ein bod yn gwrando ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn codi llais drostyn nhw fel bod hawliau plant yn cael eu diogelu, a’n bod ni’n cefnogi, yn herio ac yn dylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.
Rydyn ni’n gweld ein hunain fel rhai sydd â phedwar pwrpas – rydyn ni:
Yma i bob plentyn
Rydyn ni’n gwrando ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni ar gael i bob plentyn yng Nghymru, er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu codi llais yn effeithiol ar eu rhan a’u cynrychioli yn y ffordd sy’n cael yr effaith fwyaf.
- Yn ‘gwireddu’ hawliau
Rydyn ni’n cefnogi ac yn addysgu plant a phobl ifanc i wybod am eu hawliau dynol a’u deall, ac rydyn ni’n cefnogi ac yn cynghori gwasanaethau cyhoeddus ynghylch hybu a diogelu hawliau plant. - Yn dweud y gwir
Byddwn ni’n cefnogi ac yn grymuso plant i godi llais a rhannu eu hamrywiol brofiadau gyda llunwyr penderfyniadau. Byddwn ni’n bwrw goleuni ar faterion penodol ac yn gwneud storïau yn fwy clywadwy trwy ddatblygu ein gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu. - Yn herio
Byddwn ni’n herio ac yn cefnogi eraill i sicrhau bod hawliau dynol plant yn cael eu gwireddu. Er ein bod ni am weithio mewn partneriaeth, fyddwn ni ddim yn ofni parhau i dynnu sylw at wasanaethau gwael, penderfyniadau gwael a dewisiadau gwael, os ydyn nhw’n cael effaith negyddol ar fywydau plant.
Pennodd y Comisiynydd bedwar maes blaenoriaeth fel rhan o gynllun strategol 2023-26:
- Cydraddoldeb
- Addysg / Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Tlodi plant
- Iechyd Meddwl
Cefndir
Yn 2022, cynhaliodd y Comisiynydd a’i thîm ymgynghoriad ar raddfa fawr – Gobeithion i Gymru. Ymatebodd 8830 o blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru i’r arolwg, gan gynnwys trwy fformatau penodol a grewyd ar gyfer plant o dan 7 oed a’r rhai ag anableddau dysgu dwys a lluosog. Fe glywson ni gan 876 o rieni a gofalwyr, yn ogystal â 507 o weithwyr proffesiynol. Y canlyniadau hyn, ochr yn ochr â blaenoriaethau’r Comisiynydd ei hun, ddylanwadodd ar gynllun strategol 3-blynedd y Comisiynydd ar gyfer 2023-26: Gwella Bywyd i Blant yng Nghymru
Yn ystod 2025-26, blwyddyn olaf cynllun 2023-26, mae’r Comisiynydd yn bwriadu adolygu cynnydd y swyddfa yn erbyn y meysydd allweddol y gwelwyd tystiolaeth ohonynt yn ymgynghoriad Gobeithion i Gymru, yn ogystal â’n Strategaeth 3 blynedd, gyda’r bwriad o nodi unrhyw feysydd gwaith neu faterion a godwyd gan ymatebwyr sydd heb dderbyn sylw eto, naill ai gan CPC neu gan gyrff/sefydliadau eraill. Bydd y gwaith yma’n helpu i lywio blaenoriaethau’r Comisiynydd ar gyfer gweddill ei chyfnod yn y swydd, ac yn helpu’r sefydliad i roi strategaeth tair blynedd newydd yn ei lle ar gyfer y cyfnod 2026-29.
Nodau ac Amcanion
Dyma fydd nod y gwaith:
Adolygu a gwerthuso cwmpas ac effaith gwaith y Comisiynydd a’i thîm ers mis Ebrill 2023 mewn perthynas â’r materion a nodwyd yn Gobeithion i Gymru a nodau strategol y Comisiynydd, gan dynnu sylw at fylchau neu feysydd i’w cryfhau. Yna mapio a dadansoddi’r gwaith hwn yn erbyn ymdrechion cenedlaethol ehangach gan eraill.
Dyma fydd amcanion y gwaith hwn:
- Adolygu gwaith CPC ers mis Ebrill 2023 mewn perthynas â’r nodau a bennwyd yn y strategaeth tair blynedd
- Defnyddio’r wybodaeth a gafwyd o amcan 1 a’n data Gobeithion i Gymru i amlygu pa faterion sydd heb dderbyn sylw digonol yn ystod 2023-26 a ble mae cyfle i wneud gwaith pellach
- Mapio hyn yn erbyn gwaith cenedlaethol ehangach a wnaed gan eraill er mwyn cynhyrchu dadansoddiad o’r bylchau sy’n amlygu ble nad yw hawliau plant yn cael eu gwireddu
- Caniatáu cyfle i ddatblygu’r dadansoddiad o’r bylchau fel offeryn mapio ac adolygu ar gyfer gwaith materion cyhoeddus yn y dyfodol, yn ymwneud â materion hawliau plant yng Nghymru.
Allbwn a Ddisgwylir:
- Adroddiad sy’n cwmpasu’r amcanion uchod, ac sy’n cynnwys crynodeb gweithredol.
Cwmpas y Gwaith
I gyflawni’r pedwar amcan uchod, gweler yr elfennau cyflawnadwy isod. Ymchwil wrth ddesg fydd hyn, ac mae modd trafod gwneud y gwaith fesul cyfnod.
- Adolygu dogfennau CPC: dogfennau strategol, adroddiadau blynyddol, adroddiadau thematig a deunyddiau a gyhoeddwyd (os bydd gofyn ac os bydd ar gael gellid rhannu data/gwybodaeth heb eu cyhoeddi)
- Mapio’r materion sy’n codi, y sylfaen o dystiolaeth, polisïau cysylltiedig, meysydd dylanwad, allbynnau, effaith a bylchau (gweler yr esiampl yn nhabl 1; sylwer nad oes gofyn dilyn y strwythur hwn wrth gyflwyno’r wybodaeth yn eich adroddiad terfynol)
- Awgrymu gwelliannau i’n prosesau monitro, gwerthuso ac adrodd
- Cynnal adolygiad cynhwysfawr o raglenni a mentrau cenedlaethol a rhanbarthol, a chamau deddfwriaethol ledled Cymru, gan gynnwys gwaith Llywodraeth Cymru a’r Senedd, ers mis Ebrill 2023
- Asesu i ba raddau mae’r rhaglenni a’r gweithgareddau ehangach uchod yn cydweddu â chamau gweithredu strategol y Comisiynydd Plant, yn eu hategu, neu’n eu dyblygu
- Defnyddio’r dadansoddiad hwn i nodi’n glir ble nad yw hawliau plant yn cael eu gwireddu a ble mae cyfle i wneud gwaith pellach
- Llunio adroddiad terfynol fydd yn cynnwys naratif o’r data a’r bylchau a nodwyd
Hawliau deallusol
Swyddfa’r Comisiynydd Plant fydd yn cadw’r hawliau deallusol am holl gynnyrch yr ymchwil. Fodd bynnag, dylid nodi na fydd y casglu data, er ei fod yn cydymffurfio â safonau moesegol y gwyddorau cymdeithasol, wedi bod yn destun adolygiad moesegol ffurfiol.
Gellir cyhoeddi eich adroddiad terfynol yn llawn neu’n rhannol ochr yn ochr â sylwadau gan swyddfa Comisiynydd Plant Cymru. Byddwn ni’n nodi ffynhonnell eich gwaith ymchwil yn glir mewn unrhyw ddeunydd a gyhoeddir.
Gofynion Cyflwyno Cynnig
- Amlinelliad o sut byddech chi’n cyflawni’r briff a’r methodoleg rydych chi’n bwriadu ei defnyddio
- CVs y tîm fydd yn arwain y gwaith
- Enghreifftiau o waith tebyg
- Dau eirda gan gleientiaid
- Amserlen, gan gynnwys cerrig milltir allweddol
- Manylion y costau
- Moeseg ymchwil
Ni fydd angen i chi gynnwys costau cyfieithu, dylunio’r adroddiad nac argraffu.
Bydd gofyn eich bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, deddfwriaeth Cydraddoldeb, cyfrinachedd, diogelu data a gofynion diogelu gwybodaeth ar hyd y gwaith.
Croesawir ceisiadau ar y cyd, cyhyd â bod y contractiwr fydd yn arwain y gwaith yn cael ei nodi’n glir.
Gofynnir i chi ddarparu eich ymateb mewn un ddogfen nad yw’n hwy na 10 tudalen, gyda maint y ffont yn 11 pwynt neu fwy.
Meini Prawf Gwerthuso
Ansawdd gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i’r canlynol:
- Profiad a dealltwriaeth perthnasol (hawliau plant, sector cyhoeddus, cyd-destun Cymru)
- Rhoi ar waith a therfynau amser
- Gwerth ychwanegol / arloesi
- Methodoleg arfaethedig
Pwysiad – 65%
Gwerth am arian, gan gynnwys dyrannu adnoddau ac ymdrin â’r amserlen yn realistig
Pwysiad – 25%
Cyflogwr cyflog byw
Pwysiad – 5%
Wedi ymrwymo i gadwyni cyflenwi moesegol / i’r côd cyflenwi sy’n gwrthwynebu caethwasiaeth
Pwysiad – 5%
Amserlen
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 5pm ar 18 Gorffennaf 2025, neu cyn hynny.
Cynhelir y cyfweliadau yn yr wythnos sy’n cychwyn ar 28 Gorffennaf 2025, a dyfarnir y gwaith erbyn 1 Awst 2025.
Mae’r gwaith i’w gwblhau erbyn 1 Hydref 2025.