Help a Chefnogaeth i Ofalwyr Ifanc

Cyngor a Chefnogaeth Ychwnaegol

Os ydych chi’n berson ifanc yng Nghymru, a rydych chi’n gofalu am berson arall, mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael i chi. Mae gofalu am berson arall yn gyfrifoldeb mawr, felly mae’n bwysig eich bod chi’n cymryd gofal ohonoch chi hefyd.

Isod mae gwybodaeth i’ch helpu i wybod â phwy i gysylltu â nhw os ydych chi eisiau cyngor neu mwy o gefnogaeth.

  • Gofynnwch am help a chefnogaeth. Gallwch chi ofyn i aelod o’ch teulu, cymydog, grwp cefnogaeth neu gwasanaethau cymdeithasol.
  • Siaradwch i’ch ysgol a gwnewch yn siwr bod nhw’n gwybod am eich rôl gofalu. Gallwch chi barhau i fynd i’r ysgol, er bod yna gorchymyn i aros adre i ran fwyaf o bobl. Y rheswm am hyn yw bod yr ysgol yn cynnig brêc pwysig i chi.
  • Os ydych chi’n gweld hi’n anodd i wneud eich gwaith ysgol, neu bod gennych chi ddim dyfais i weithio arno, neu cyswllt wê gwael, gadewch i’r ysgol i wybod am hyn hefyd.
  • Cofiwch edrych ar ôl eich hun hefyd. Mae yna llwyth o gyngor ar y brif dudalen i’ch helpu.

Os ydych chi’n gweld hi’n anodd i gael cefnogaeth, plis cysylltwch ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor a gofynnwch i siarad gydag un o’n swyddogion cyngor; bydden nhw’n gallu eich helpu.

Canllaw gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr (Carers Trust)

Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi creu canllaw newydd i helpu gofalwyr ifanc.

Mae’n cynnwys help ar iechyd meddwl, bwyta’n iach a chadw’n ffit, a manylion gwasanaethau lleol i’ch helpu.

Ewch i’w gwefan