Gwreiddio Hawliau Plant

Mae gwreiddio hawliau plant yn golygu mynd ati’n fwriadol ac yn systematig i ddefnyddio hawliau plant yn yr iaith mae sefydliad yn defnyddio, gan sicrhau bod staff yn deall hawliau plant trwy hyfforddiant a datblygiad, ac integreiddio meddwl am hawliau wrth ddatblygu gwasanaeth.

Mae gwreiddio hawliau fel hyn yn golygu bod y staff yn deall eu bod yn ddeiliaid dyletswydd; mewn geiriau eraill bod dyletswydd broffesiynol arnyn nhw i gynnal a hybu hawliau plant. Mae hefyd yn golygu bod plant a theuluoedd yn clywed y neges glir eu bod yn derbyn gwasanaethau mae arnyn nhw eu hangen oherwydd bod ganddyn nhw hawl i dderbyn y gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni eu potensial. Mae hyn yn osgoi dull gweithredu diffygiol ac yn cyfleu neges bwysig i blant ynghylch eu gwerth cynhenid, beth bynnag mae bywyd wedi’i daflu atyn nhw.

Gallwch wreiddio hawliau yn eich gwasanaeth trwy:

  • Sicrhau bod pob polisi a dogfen fewnol wedi’u seilio ar CCUHP ac yn cyfeirio’n benodol at hynny. Dylai’r cyfeiriad at hawliau fod yn benodol ac ymgorffori safonau megis y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ar gyfer Pobl Ifanc.
  • Sicrhau bod staff, uwch-arweinyddion a’r cyngor yn ymwybodol o hawliau plant a sut mae eu cynnal mewn ymarfer pob dydd, rolau unigol a chyflwyno’r gwasanaeth.

Rhai ffyrdd ymarferol o wreiddio hawliau plant mewn ymarfer pob dydd:

  • Defnyddio iaith hawliau yn eu hymarfer pob dydd gyda phlant a’u teuluoedd. Er enghraifft, ‘Mae gennych chi hawl i gael gwrandawiad a chael eich cymryd o ddifri. Dyna pam rwy am i ni gwrdd a chlywed mwy am…..’
  • Defnyddio iaith hawliau i eiriol ar ran y plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw. Er enghraifft, ‘Mae ganddi hawl i’r gefnogaeth mae arni ei hangen i ymadfer wedi’r camdriniaeth brofodd hi (erthygl 39, CCUHP), felly mae achos cryf dros ddarparu’r gefnogaeth seicolegol hon.’
  • Annog ystyriaeth i hawliau plant mewn trafodaethau tîm a sesiynau goruchwylio.

Dysgwch mwy am sut mae CBS Wrecsam wedi ymgorffori hawliau yn eu gwasanaeth:

Darllenwch Astudiaeth Achos Wrecsam yma

Astudiaeth Achos – Cyngor Castell-nedd Port Talbot 

Gwreiddio hawliau plant mewn gofal cymdeithasol:

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn credu’n angerddol mewn cynnal hawliau plant a phobl ifanc, ac mae eu cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant, gyda chefnogaeth Uned Hawliau Plant Castell-nedd  Port Talbot, wedi datblygu rôl i ‘Hyrwyddwyr Hawliau Plant’ yn ddiweddar. Gwahoddir hyrwyddwyr i fynychu gweithdy hyfforddi ymarferol lle maen nhw’n dysgu am CCUHP a phum egwyddor Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant. Yna caiff yr wybodaeth honno ei chymhwyso i greu cynllun gweithredu sy’n rhoi cyfle i hyrwyddwyr berchnogi sut mae gwreiddio hawliau plant yn eu harferion pob dydd presennol, a chaiff syniadau ar gyfer datblygu gwasanaeth eu hystyried. Mae hawliau plant yn gyfrifoldeb i bawb, a thrwy recriwtio hyrwyddwyr gwirfoddol a datblygu cynllun gweithredu, mae’r awdurdod lleol yn ymroddedig i wreiddio hawliau plant yn ymarferol.

Astudiaeth Achos – Ysgol Heronsbridge

Mae Heronsbridge yn Ysgol Arbennig Gynradd ac Uwchradd. Maen nhw’n darparu ar gyfer ystod eang o Anghenion Dysgu, gan gynnwys adran i ddisgyblion ar y Continwwm Awtistiaeth, ac mae ganddyn nhw ddau dŷ preswyl ar diroedd yr ysgol, er bod mwyafrif y disgyblion yn mynychu’n ddyddiol. Mae Heronsbridge wedi mabwysiadu dull ysgol gyfan o wreiddio hawliau ar draws yr ysgol. Mae’r holl staff wedi cael eu hyfforddi ac mae corff llywodraethu’r ysgol yn ymwybodol o CCUHP a sut gallan nhw gefnogi holl gymuned yr ysgol i wreiddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau.

Mae CCUHP wedi’i wreiddio ym mholisïau’r ysgol ac yn cael ei ddefnyddio bob dydd mewn gwasanaethau, gwersi a gweithgareddau gyda disgyblion – gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau ac yn gallu cael mynediad iddynt. Mae’r ysgol yn cydnabod yr effaith mae gwreiddio hawliau wedi’i chael. Trwy hybu gwerthoedd parch, urddas a pheidio â chamwahaniaethu, mae plant yn cael hwb i’w hunanbarch a’u llesiant, gan eu bod yn ymwybodol o’u llais a’u bod yn cael gwrandawiad, neu y bydd oedolion yn gweithio er eu lles pennaf. Mae plant yn teimlo’n ddiogel mewn amgylchedd o’r fath. Mae’r Dyfarniad Ysgolion sy’n Parchu Hawliau yn rhoi iaith bwerus i blant ei defnyddio i’w mynegi eu hunain ac i leisio barn ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’r staff yn gweithredu fel Deiliaid Dyletswydd, ac yn sicrhau bod hawliau plant yn cael lle blaenllaw yn yr holl benderfyniadau a wneir. Mae gan y plant well perthynas gyda’u hathrawon a’u cyfoedion, ar sail parch o’r ddeutu a gwerth barn pawb. Mewn ysgol sy’n Parchu Hawliau, mae’r plant yn cael eu trin yn gyfartal gan eu cyd-ddisgyblion a’r oedolion sydd yn yr ysgol. Mae’r plant yn dod yn weithredol ac yn chwarae rhan ym mywyd yr ysgol a’r byd ehangach, ac mae hynny’n meithrin eu hyder i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae ganddyn nhw fframwaith moesol, wedi’i seilio ar gydraddoldeb a pharch at bawb, sy’n para oes wrth iddyn nhw dyfu’n aelodau cysylltiedig, cyfrifol o’r gymdeithas.