Gwisgo mwgwd: gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc

Beth yw mygydau?

Mae mygydau yn gorchuddio eich wyneb. Gallwch brynu rhain neu fedrwch chi wneud un eich hun. Gallant fod yn rhai un-tro neu rhai fedrwch chi eu golchi.

Mae mygydau’n gallu helpu atal y coronafeirws rhag lledaenu pryd mae angen i bobl bod yn agos at ei gilydd. Maen nhw ond yn gweithio pryd maen nhw’n cael eu defnyddio yn iawn. Mae angen i chi:

  • Golchi eich dwylo cyn gwisgo eich mwgwd
  • Gorchuddio eich ceg a’ch trwyn wrth wisgo’r mwgwd
  • Rhoi e mewn lle diogel fel bag plastig pan nad ydych yn ei wisgo
  • Os oes gennych chi fwgwd gallwch chi gochi, golchwch eich mwgwd yn aml.
  • Os oes gennych chi fwgwd un-tro, gwnewch yn siwr eich bod chi’n rhoi e yn bin ar ôl ei ddefnyddio.

Beth os rydw i fethu gwisgo mwgwd?

  • Efallai byddwch chi fethu gwisgo mwgwd oherwydd eich iechyd neu anabledd, neu oherwydd y ffordd rydych chi’n cyfathrebu gydag eraill.
  • Does dim angen i chi ddweud wrth bobl ifanc arall eich rheswm dros beidio gwisgo mwgwd os nad ydych chi eisiau.
  • Cofiwch i gadw at y rheolau arall megis golchi’ch dwylo a chadw’ch pellter ble bod angen.

Beth ddylwn i wneud os rydw i’n gweld rhywun sydd ddim yn gwisgo mwgwd?

Efallai bod ganddynt gyflwr meddygol neu anabledd sy’n golygu bod dim angen iddyn nhw wisgo mwgwd. Mae ganddynt yr hawl i breifatrwydd. Peidiwch ofyn iddyn nhw pam nad oes angen iddyn nhw wisgo un.

Beth os rwy’n dal i fecso?

Os ydych chi’n becso, fedrwch chi:

  • Gysylltu â Meic ar gyfer cyngor a chefnogaeth. Fedrwch chi alw 080880 23456 am ddim neu siarad ar-lein.
  • Gysylltu â Childline os ydych chi’n becso neu’n drist. Fedrwch chi alw 0800 1111 am ddim neu siarad â chownselydd ar eu gwefan.

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi wedi cael eich drin yn annheg, fedrwch chi gysylltu a’n tîm Ymchwiliadau a Chyngor trwy alw neu drwy e-bostio.

Pa hawliau sy’n berthnasol yma?

Mae gennych yr hawl o dan yr CCUHP i’ch iechyd ac i oroesi. Dyna pam mae yna mesurau i gadw pawb yn ddiogel i atal y feirws rhag lledaenu.

Mae gennych yw hawl hefyd i gael dy drin yn deg a derbyn cefnogaeth os oes gennych chi anabledd. Dyna pam na fydd hi’n orfodol i chi wisgo mwgwd os mae’ch iechyd neu anabledd yn atal chi rhag neud.

Mae gennych yw hawl i breifatrwydd. Does dim angen i chi ddweud wrth bobl eich rheswm dros beidio gwisgo mwgwd.

Mae gennych yr hawl i fod yn ddiogel. Yn ogystal â chael eich diogelu rhag y feirws, dylech hefyd cael eich diogelu rhag bwlio am unrhyw reswm. Ddylai neb cael eu bwlio am beidio gwisgo mwgwd. Ddylai neb cael eu bwlio am y math o fwgwd maen nhw’n gwisgo. Dywedwch wrth rywun os mae hyn yn digwydd er mwyn iddyn nhw ddiogelu chi.