Bydd Ceidwaid Chwarae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal gweithgareddau i blant iau bob dydd Mercher rhwng 2.00y.p. a 4.00y.p. a bydd gwirfoddolwyr o Glwb Ieuenctid Wick yn eu cefnogi. Os hoffech chi gael y cyfle i ddod yn wirfoddolwr i Glwb Ieuenctid Wick yna cliciwch ar y linc isod:
Wrth glicio ar y linc isod gallwch ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal leol.
I ddod o hyd i gyfleoedd, teipiwch eich cod post yn y blwch chwilio a dewiswch faint o filltiroedd y byddech chi’n gallu eu teithio.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio oedran y cyfle gwirfoddoli ddwywaith cyn i chi wneud cais.
Mae gan Dy Hafan gyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc dros 16 oed. Gallwch ddarganfod mwy yma:
Ty Hafan – Cyfleoedd i Wirfoddoli
Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli i Barnardo’s wrth glicio ar y linc isod. Maen nhw’n derbyn gwirfoddolwyr dros 14 oed.
Barnardo’s – Cyfleoedd i Wirfoddoli
Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli gyda Mencap wrth glicio ar y dudalen we isod. Mae angen i wirfoddolwyr fod dros 16 oed, unrhyw wirfoddolwr sydd o dan 18 oed fe fydd angen caniatâd gan riant neu ofalwr.
Mencap – Cyfleoedd i Wirfoddoli
Mae gan Gyngor Cymuned Wick gyfleoedd i bobl ifanc 14-18 oed wirfoddoli mewn gweithgareddau – mwy o fanylion i ddilyn.