Mae KPC yn elusen wedi’i lleoli yn Pîl sy’n cefnogi pobl ifanc dros 8 oed. Maent yn cynnig ystod o gyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc sydd eisiau ennill profiad, darganfod mwy am waith ieuenctid, neu hyd yn oed gefnogi yn y caffi. Maent yn chwilio am unigolion sy’n mwynhau gweithio gyda phobl ifanc ac sydd â thalent neu sgil y gallant ei rhannu gyda’r ganolfan. Maent hefyd yn cynnig lleoliadau i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â graddau Ieuenctid a Chymuned, cymwysterau gofal plant neu chwaraeon ac i rheini sydd angen ennill rhywfaint o brofiad ymarferol i ategu eu hastudiaethau.
Os hoffech chi gysylltu â nhw, cliciwch ar y linc isod:
Wrth glicio ar y linc isod gallwch ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal leol.
I ddod o hyd i gyfleoedd, teipiwch eich cod post yn y blwch chwilio a dewiswch faint o filltiroedd y byddech chi’n gallu eu teithio.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio oedran y cyfle gwirfoddoli ddwywaith cyn i chi wneud cais.
Mae gan Dy Hafan gyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc dros 16 oed. Gallwch ddarganfod mwy yma:
Ty Hafan – Cyfleoedd i Wirfoddoli
Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli i Barnardo’s wrth glicio ar y linc isod. Maen nhw’n derbyn gwirfoddolwyr dros 14 oed.
Barnardo’s – Cyfleoedd i Wirfoddoli
Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli gyda Mencap wrth glicio ar y dudalen we isod. Mae angen i wirfoddolwyr fod dros 16 oed, unrhyw wirfoddolwr sydd o dan 18 oed fe fydd angen caniatâd gan riant neu ofalwr.