Gwahaniaethu

Mae gan bob plentyn yr hawl i gyrraedd ei botensial llawn, beth bynnag fo’i hil, ei rywedd, neu b’un a oes ganddo anabledd ai peidio.

Mae pawb yn y Deyrnas Unedig yn cael ei warchod gan y Ddeddf Cydraddoldeb sy’n dweud na ddylai neb gael ei drin yn anffafriol oherwydd ei nodweddion personol.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn hefyd yn dweud na ddylai unrhyw blentyn gael ei drin yn wahanol oherwydd pwy ydyw.

Er mwyn sicrhau nad yw plant yn wynebu gwahaniaethu wrth ddefnyddio gwasanaethau, mae sawl peth y gall sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant ei wneud:

  • Sicrhau bod eu staff yn gwybod am hawliau plant a’r Ddeddf Cydraddoldeb
  • Sicrhau bod eu proses yn ystyried sut gallai eu penderfyniadau effeithio ar grwpiau unigol o blant, a beth allant ei wneud i sicrhau bod pob plentyn yn elwa
  • Ystyried a yw eu gwasanaeth yn helpu pob grŵp o bobl ifanc y mae arnynt ei angen ac, os na, cymryd camau i’w wella
  • Rhoi gwybodaeth i blant mewn iaith neu fformat sy’n briodol i’w hoedran a’u haeddfedrwydd, eu diwylliant, neu eu hanabledd

Mae gan y Cyngor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wasanaeth cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i helpu pobl sy’n credu y mae eu hawliau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb wedi cael eu torri:

CYSWLLT I’R GWASANAETH