Ein Negeseuon Allweddol

‘Dim drws anghywir’

  • Mae’r pandemig byd-eang wedi dangos yn amlwg dan gymaint o straen mae iechyd meddwl a gofal cymdeithasol ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Rhagwelir y bydd ein gwasanaethau iechyd a gofal yn gweld cynnydd sylweddol yn yr angen yn ystod y misoedd nesaf, a bydd angen ymateb rhanbarthol, cydlynus er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth rydyn ni’n ei chynnig yn ddigonol i ymateb i’r galw hwn.
  • Yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru, mae plant a phobl ifanc sy’n profi trallod o ran iechyd meddwl, llesiant emosiynol a materion ymddygiad yn aros yn rhy hir i gael yr help angenrheidiol, ac maen nhw’n cael eu ‘bownsio’ rhwng gwasanaethau sy’n methu cytuno pwy sy’n gyfrifol am eu gofal. Rydyn ni am weld gwasanaethau’n cofleidio plant a phobl ifanc a’u teuluoedd, yn hytrach na’u bod yn gorfod cael hyd i ffordd trwy systemau cymhleth.
  • Mae angen i ranbarthau symud yn gyflym tuag at ddull ‘dim drws anghywir’ wrth ymateb i anghenion llesiant emosiynol a iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae hynny’n golygu na ddylen nhw gael clywed droeon eu bod yn curo ar y drws anghywir wrth geisio cael cymorth. Gallai hyn gynnwys modelau panel neu hwb i ddarparu cymorth cydlynus yn brydlon, canolfannau galw heibio, timau amlddisgyblaeth, modelau sy’n sicrhau bod angen i lai o blant a phobl ifanc fynd oddi cartref i gael gofal arbenigol, neu gynlluniau ar gyfer gofal preswyl arbenigol yn nes adref.

Anableddau dysgu

  • Yn rhy aml, mae plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu yn dal i wynebu profiad cymhleth, straenus wrth iddyn nhw symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Mae arwyddion addawol mewn rhai rhanbarthau, ond nid ydym wedi gweld y newid ‘ar lawr gwlad’ y bydden ni’n hoffi, ac rydyn ni’n annog pob rhanbarth i edrych eto ar eu cynlluniau ar gyfer y grŵp bregus hwn.

Camau cadarnhaol

  • Mae’n ein calonogi bod gan bob rhanbarth bellach grwpiau amlasiantaeth penodol i ystyried anghenion plant a phobl ifanc, er bod rhai o’r rhain yn newydd iawn.
  • Bu newidiadau diweddar sydd i’w croesawu i bolisi Llywodraeth Cymru, megis neilltuo cyllid sylweddol yn benodol ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, cryfhau’r ddyletswydd sydd ar ranbarthau i sicrhau cyfranogiad plant yn eu gwaith, a chyhoeddi diffiniad ehangach o blant ag anghenion cymhleth, fel y dylai rhanbarthau fod yn trio cyflawni gwasanaethau integredig i bob plentyn sydd mewn trallod.

Beth sydd angen gwella?

  •  Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi rhanbarthau i ‘drawsffurfio’ gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth, er enghraifft trwy weithio gyda rhanbarthau i rannu prosiectau dysgu a chymorth, a darparu cefnogaeth ariannol tymor hwy, y tu hwnt i arian ‘sbarduno’.
  • Mae angen i ranbarthau weithio gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd, a’r oedolion sy’n gofalu amdanynt, i ailgreu sut mae gwasanaethau’n gweithio. Mae hynny’n cynnwys bod yn fwy hygyrch a thryloyw ynghylch y gwaith maen nhw’n ei wneud.
  • Mae angen gweld cyllid ac adnoddau fel pethau sy’n perthyn i’r ‘rhanbarth cyfan’, yn hytrach na bod yn eiddo i awdurdodau lleol neu’r bwrdd iechyd lleol.