Digwyddiadau a Darpariaeth wedi’u Trefnu

Ar y linc isod fe welwch wybodaeth am fannau chwarae a gwasanaethau ieuenctid yng Ngheredigion:

Mannau Chwarae a Gwasanaethau Ieuenctid Ceredigion

Wrth glicio ar y linc isod fe welwch wybodaeth am lwybrau cerdded, parciau a gweithgareddau diwylliannol yng Ngheredigion:

Llwybrau Cerdded, Parciau a Gweithgareddau Diwylliannol Ceredigion

Cliciwch ar y linc isod i gael mwy o wybodaeth am wasanaethau ieuenctid yng Ngheredigion:

Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion

Area 43

Mae 43 yn ‘Ganolfan galw i mewn’ yn Aberteifi. Maent yn darparu amgylchedd diogel, anffurfiol, gofalgar, anwahaniaethol ac nad ydynt yn barnu, ble gall pobl ifanc (oed 16-25) gymdeithasu gyda’u cyfoedion a chael mynediad at ystod o wybodaeth o ansawdd a chefnogaeth oddi wrth staff hyfforddedig a phrofiadol. Mae’r ganolfan yn darparu diodydd cynnes am ddim, bwyd cymorthdaledig a chaffi rhyngrwyd. Mae hefyd gennym ystod o weithgareddau deniadol Celf a Chrefft a gweithgareddau Datblygu Personol fel Adeiladu Hyder, Sgiliau Cyfathrebu, Llythrennedd Emosiynol a Sgiliau Bywyd Ymarferol. Os hoffech fwy o wybodaeth yna cliciwch ar y linc isod:

Area 43

O ddydd Llun yr 28ain o Fehefin 2021 bydd Cyngor Sir Ceredigion yn darparu Sesiynau Nofio Cymunedol am ddim yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth. Os hoffech chi edrych ar eu hamserlen yna cliciwch ar y linc isod:

Ceredigion ACTIF

RAY Ceredigion

Mae RAY Ceredigion yn elusen fach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i gymunedau yng Ngheredigion trwy ddarparu gweithgareddau wythnosol sy’n magu hyder, yn datblygu cyfeillgarwch ac yn cryfhau’r gymuned. Eu nod yw gwella cyfranogiad iechyd a lles y rhai sydd fwyaf agored i niwed ac anfanteision, ac rydym yn cefnogi pob oedran a gallu. Mae RAY wedi’i leoli yn nhref harbwr Aberaeron, ym Mae hyfryd Ceredigion. Os hoffech chi ddarganfod mwy am ba fath o weithgareddau sydd ganddyn nhw i’w cynnig dros yr haf yna cliciwch ar y linc isod:

RAY Ceredigion

DASH Ceredigion

Mae DASH Ceredigion yn trefnu amrywiaeth o gynlluniau hamdden i blant a phobl ifanc anabl yng Ngheredigion. Maent yn sicrhau y gall plant anabl lleol a’u teuluoedd gael gwell ansawdd bywyd gyda mynediad at ddewis ehangach o gyfleusterau hamdden a chyfleoedd eraill. Gall rhieni a gofalwyr gael cyfle am seibiant i fagu nerth tra bod y plant a’r bobl ifanc anabl yn cael amser eu hunain ar gyfer datblygiad personol, cymdeithasol a chreadigol mewn amgylchedd croesawgar a hwyliog. Os hoffech wybod am y cynlluniau sydd ganddynt dros yr haf  yna cliciwch ar y linc isod:

DASH Ceredigion

Mae’r Urdd yn cynnal llawer o weithgareddau chwaraeon a chwarae am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg yr haf hwn mewn sawl lleoliad ledled Cymru. Edrychwch isod ar eu tudalen we i ddod o hyd i’ch sesiynau agosaf (*Sylwch fod y dudalen we hon hefyd yn cynnwys rhai sesiynau sy’n daliedig*):

Gweithgareddau Gwyliau – Urdd Gobaith Cymru