Digwyddiadau a Darpariaeth wedi’u Trefnu

O’r 21ain o Orffennaf mae Casnewydd yn cynnal digwyddiadau chwaraeon dros dro am ddim ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3-14 oed o 1yp tan 4yp. Hefyd mae’r digwyddiadau hyn yn darparu byrbrydau a dŵr. Os hoffech chi gymryd rhan yn y digwyddiadau yna cliciwch ar y linc isod (*Sylwch hefyd fod y dudalen yn cynnwys rhai digwyddiadau sy’n daliedig*):

Gweithgareddau Gwyliau i Blant – Casnewydd

Ar y linc isod fe welwch wybodaeth am ddigwyddiadau yng Nghasnewydd:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd – Casnewydd

Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi lansio cyfres o ddigwyddiadau am ddim a drefnwyd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc yn eu hamgueddfeydd dros yr haf. Gallwch ddod o hyd i’ch amgueddfa genedlaethol agosaf wrth glicio ar y linc isod:

Amgueddfa Cymru

Mae’r Urdd yn cynnal llawer o weithgareddau chwaraeon a chwarae am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg yr haf hwn mewn sawl lleoliad ledled Cymru. Edrychwch isod ar eu tudalen we i ddod o hyd i’ch sesiynau agosaf (*Sylwch fod y dudalen we hon hefyd yn cynnwys rhai sesiynau sy’n daliedig*):

Gweithgareddau Gwyliau – Urdd Gobaith Cymru