Digwyddiadau a Darpariaeth wedi’u Trefnu

Yn dechrau o’r 26ain o Orffennaf tan y 18fed o Awst bydd Chwaraeon Caerffili yn darparu sesiynau chwaraeon am ddim rhwng 1:30yp a 3:30yp i blant rhwng 7 a 12 oed. Os hoffech wybod mwy am y sesiynau hyn yna cliciwch ar y linc isod:

Chwaraeon Caerffili

Gweler isod wybodaeth am Mannau Gwyrdd yng Nghaerffili gan gynnwys parciau a llwybrau cerdded:

Mannau Gwyrdd Caerffili

Gweler isod frestr o fannau chwarae sydd ar gael yn Caerffili:

Mannau Chwarae Caerffili

Mae Islawr Coed Duon (wedi ei leoli o dan Lyfrgell Coed Duon) yn Ganolfan gwybodaeth galw i mewn sy’n darparu mynediad at wybodaeth, cymorth ac eiriolaeth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 blwydd oed, Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili ac asiantaethau partner. Os hoffech rhagor o fanylion am Islawr Coed Duon yna cliciwch ar y linc isod:

Islawr Coed Duon

Wrth glicio ar y linc isod fe welwch wybodaeth am wasanaethau ieuenctid yng Nghaerffili:

Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili

Mae’r Urdd yn cynnal llawer o weithgareddau chwaraeon a chwarae am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg yr haf hwn mewn sawl lleoliad ledled Cymru. Edrychwch isod ar eu tudalen we i ddod o hyd i’ch sesiynau agosaf (*Sylwch fod y dudalen we hon hefyd yn cynnwys rhai sesiynau sy’n daliedig*):

Gweithgareddau Gwyliau – Urdd Gobaith Cymru