Mae Gilfach Goch Community Association yn cynnal gweithgareddau yn Rhondda Cynon Taff, a Phen-y-Bont ar Ogwr.
Mae’r gweithgareddau yn cynnwys Cynllun Chwarae dros y Gwyliau, sy’n agor i blant a phobl ifanc 5-14 oed.
Ewch i’w gwefan i ddarllen mwy ac i weld gweithgareddau eraill
Mae Splice, Prosiect ar gyfer Plant a Theuluoedd yn cynnig sesiynau chwarae teuluol i blant hyd at 8 oed bob dydd Mawrth a dydd Iau trwy gydol mis Awst. Ar y dyddiau hyn fe fydd dwy sesiwn rhwng 10.00yb – 11.30yb a 1.00yp – 2.30yp. Fe fyddant yn cynnig gweithgareddau celf a chrefft i’r teulu cyfan, gemau a chwarae dan do ac awyr agored (os yw’r tywydd yn caniatáu) yn eu hadeilad cymunedol. Os hoffech chi archebu slot yna cliciwch ar y linc isod:
Sesiynau Chwarae Teuluol – Prosiect Splice
Ar ddydd Iau yr 2il o Fedi mae gan Grŵp Sgowtiaid Pen y Fai ddiwrnod antur gweithgaredd i Gybiau newydd (i blant rhwng 8 a 10 a hanner oed) a Sgowtiaid (i blant rhwng 10 a hanner ac 14 oed). Dim ond ychydig o lefydd sydd ar ôl gennynt. Os hoffech chi archebu eich lle yna cliciwch ar y linc isod:
Cliciwch ar y linc isod i gael mwy o wybodaeth am wasanaethau ieuenctid ym Mhen-y-bont ar Ogwr (gan gynnwys eu cynllun “sgwrsio â gweithiwr ieuenctid”):
Cynnal Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr
Defnyddiwch y linc isod i ddarganfod mwy o wybodaeth am y traethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Sylwch, er bod mynediad i’r traeth yn rhad ac am ddim, codir tâl am barcio. Hefyd sylwch fod gan Rest Bay bwynt plentyn coll:
Traethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Gweler isod linc i warchodfa Bywyd Gwyllt, mae’n cynnwys mynediad am ddim a pharcio AM DDIM. Edrychwch ar y wefan am weithgareddau a digwyddiadau:
Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
Gallwch ddarganfod mwy am nofio AM DDIM ym Mhen-y-bont ar Ogwr trwy edrych ar y tab Nofio Am Ddim ar y linc isod:
Gwersi Nofio Plant a Sesiynau Hwyl
Mae’r Urdd yn cynnal llawer o weithgareddau chwaraeon a chwarae am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg yr haf hwn mewn sawl lleoliad ledled Cymru. Edrychwch isod ar eu tudalen we i ddod o hyd i’ch sesiynau agosaf (*Sylwch fod y dudalen we hon hefyd yn cynnwys rhai sesiynau sy’n daliedig*):