Digwyddiadau a Darpariaeth wedi’u Trefnu

Mae Sir y Fflint wedi trefnu Cynlluniau Chwarae Haf yn rhad ac am ddim i blant rhwng 5 a 12 oed ac fe fydd hyn yn dechrau ar ddydd Llun y 19eg o Orffennaf. Mae’r cynlluniau chwarae hyn hefyd yn darparu cefnogaeth 1-1 i blant ag anableddau a byddant yn cael eu darparu gan Dîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint. 

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Janet.Roberts2@flintshire.gov.uk neu os hoffech chi gymryd rhan yna cliciwch ar y linc isod:

Cynllun Chwarae Sir y Fflint

Mae cyllid ar gael i blant cymwys gael mynediad at sesiynau chwarae/gofal plant sy’n cael eu cynnal rhwng 19 Gorffennaf 2021 a 29 Awst 2021 gyda darparwyr gofal plant sy’n gofrestredig gydag AGC yn Sir y Fflint. Gellir mynychu’r sesiynau hyn yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau, ac yn ystod y dydd neu gyda’r nos, yn dibynnu ar y darparwr gofal plant, er mwyn rhoi cyfle i blant cymwys gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a/neu gorfforol, dros wythnosau’r gwyliau haf.

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer plant o Sir y Fflint yn unig, sydd rhwng 0 a 4 oed, a gellid ystyried brodyr neu chwiorydd hefyd. Am fwy o wybodaeth neu os hoffech llenwi’r ffurflen gais, yna cliciwch ar y linc isod:

Haf o Hwyl Sir y Fflint 0-4 oed

Ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Fedi yng Nghaffi Isa rhwng 9:30yb ac 11:30yb bydd Bore o Hwyl am ddim gyda Professor Llusern a Magi Ann. Mae’r bore o hwyl hwn yn addas i blant hyd at 7 oed a’u teuluoedd. Os hoffech chi fod yn rhan o’r hwyl yna cliciwch ar y linc isod:

Bore o Hwyl gyda Professor Llusern a Magi Ann

Mae’r Urdd yn cynnal llawer o weithgareddau chwaraeon a chwarae am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg yr haf hwn mewn sawl lleoliad ledled Cymru. Edrychwch isod ar eu tudalen we i ddod o hyd i’ch sesiynau agosaf (*Sylwch fod y dudalen we hon hefyd yn cynnwys rhai sesiynau sy’n daliedig*):

Gweithgareddau Gwyliau – Urdd Gobaith Cymru