Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid Mynediad Agored:
Sir Fynwy Bydd y Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau dros yr haf wrth i ni adfer o’r pandemig Covid. Mae pob un o’n canolfannau ieuenctid yn cynnig mannau galw heibio am ddim a diogel i bobl ifanc 11-25 oed. Bydd ein Gweithwyr Ieuenctid ar y safle yn darparu cymysgedd o weithgareddau bob dydd ac maent bob amser yn hapus i sgwrsio. Bob wythnos byddwn yn darparu diwrnodau gweithgareddau awyr agored a fydd yn fynediad cwbl agored heb fod angen archebu lle. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, naill ai galwch heibio i’ch canolfan ieuenctid agosaf er mwyn sgwrsio â ni, neu danfonwch neges atom ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol MonLife Connect.
Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol:
Bydd pum safle’n darparu’r rhaglen (Overmonnow, Kymin View, Deri View, Thornwell a Durand) gyda chapasiti ar gyfer 360 o blant bob dydd. Bydd y cynllun yn rhedeg am 20 diwrnod o ddydd Llun 2il i ddydd Gwener 27ain Awst, 9:30-2:30pm a bydd yn cael ei ddarparu am ddim i blant sy’n mynychu.
Sesiynau Chwarae Mynediad Agored:
Byddwn yn edrych ar gyfres o sesiynau chwarae mynediad agored 1 awr a 55 munud ar draws Sir Fynwy, yn rhai o’r ardaloedd mwy gwledig drwy gydol cyfnod yr haf. Rhaglen lawn i’w gadarnhau ac yn amodol ar gyllid. Bydd y sesiynau hyn yn rhad ac am ddim i blant a theuluoedd sy’n mynychu. Cadwch lygad ar y linc isod am unrhyw ddiweddariadau i’r rhaglen.
Mae’r Urdd yn cynnal llawer o weithgareddau chwaraeon a chwarae am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg yr haf hwn mewn sawl lleoliad ledled Cymru. Edrychwch isod ar eu tudalen we i ddod o hyd i’ch sesiynau agosaf (*Sylwch fod y dudalen we hon hefyd yn cynnwys rhai sesiynau sy’n daliedig*):