Digwyddiadau a Darpariaeth wedi’u Trefnu

Ar y linc isod fe welwch restr o weithgareddau i blant a phobl ifanc ym Mhowys. Sylwch y dylech ychwanegu’r gair “rhad ac am ddim” i’r blwch geiriau allweddol i ddod o hyd i weithgareddau am ddim:

Gweithgareddau Gwyliau Powys

Cylch Meithrin Dyffryn Banw

Bydd Cylch Meithrin Dyffryn Banw yn cynnal gweithgareddau i blant dan 11 ym Mharc Eifion, rhwng 10y.b. tan 1y.p. ar y 3oain o Orffennaf a’r 13eg a’r 27ain o Awst.

Rhaid i riant/gofalwr aros gyda’u plant a bydd @MenterMaldwyn yno yn diddanu. Os hoffech chi archebu lle yna ebostiwch dyffrynbanw@icloud.com

Mae’r Urdd yn cynnal llawer o weithgareddau chwaraeon a chwarae am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg yr haf hwn mewn sawl lleoliad ledled Cymru. Edrychwch isod ar eu tudalen we i ddod o hyd i’ch sesiynau agosaf (*Sylwch fod y dudalen we hon hefyd yn cynnwys rhai sesiynau sy’n daliedig*):

Gweithgareddau Gwyliau – Urdd Gobaith Cymru