Digwyddiadau a Darpariaeth wedi’u Trefnu

Mae Lles Merthyr yn cynnig llawer o weithgareddau newydd am ddim yr haf hwn fel gweithdai dawns, gweithdai cerdd a gweithdai celf. Os hoffech chi archebu lle i un o’r gweithdai hyn yna e-bostiwch lee.davies@merthyr.gov.uk

Neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gweithgareddau hyn yna ewch i dudalen twitter Lles Merthyr:

Lles Merthyr

Wrth glicio ar y linc isod fe welwch restr o weithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc ym Merthyr Tudful. Sylwch y dylech ychwanegu’r gair “rhad ac am ddim” i’r blwch geiriau allweddol i ddod o hyd i weithgareddau am ddim:

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd – Merthyr Tudful

Mae’r Urdd yn cynnal llawer o weithgareddau chwaraeon a chwarae am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg yr haf hwn mewn sawl lleoliad ledled Cymru. Edrychwch isod ar eu tudalen we i ddod o hyd i’ch sesiynau agosaf (*Sylwch fod y dudalen we hon hefyd yn cynnwys rhai sesiynau sy’n daliedig*):

Gweithgareddau Gwyliau – Urdd Gobaith Cymru