Digwyddiadau a Darpariaeth wedi’u Trefnu

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn darparu ystod o weithgareddau dwyieithog yn ymwneud â chwaraeon, diwylliant a chwarae yn rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc rhwng 0-25 oed fel rhan o brosiect Haf Llawn Hwyl Llywodraeth Cymru.

Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws y sir rhwng y 1af o Orffennaf a’r 1af o  Fedi. Os hoffech chi archebu lle ar un o’u digwyddiadau neu weithgareddau, ymwelwch a’u gwefan wrth glicio ar y linc isod:

Haf o Hwyl Sir Ddinbych

Ar y linc isod fe welwch ddigwyddiadau yn ardal Sir Ddinbych. Fe welwch hefyd weithgareddau chwarae i blant cyn-ysgol. Sylwch y dylech ychwanegu’r gair “rhad ac am ddim” i’r blwch geiriau allweddol i ddod o hyd i weithgareddau am ddim:

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd – Sir Ddinbych

Mae’r Urdd yn cynnal llawer o weithgareddau chwaraeon a chwarae am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg yr haf hwn mewn sawl lleoliad ledled Cymru. Edrychwch isod ar eu tudalen we i ddod o hyd i’ch sesiynau agosaf (*Sylwch fod y dudalen we hon hefyd yn cynnwys rhai sesiynau sy’n daliedig*):

Gweithgareddau Gwyliau – Urdd Gobaith Cymru