Cymorth ar gyfer Rhieni a Gofalwyr

Beth os na alla i fynd i’r gwaith gan mod i’n gorfod hunan-ynysu neu mae fy mhlentyn adref o’r ysgol ar gyfnod o hunan-ynysu?

Yng Nghymru mae Cynllun Cymorth Hunanynysu i reiny sydd ar incwm isel neu’n wynebu caledi ariannol pan yn gorfod hunan-ynysu.

Fe ddechreuodd y cynllun yma i reiny oedd wedi derbyn newyddion gan Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru. Mae e nawr wedi ei ymestyn i gynnwys rhieni a gofalwyr sy’n gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i warchod eu plant oherwydd bod achosion coronafeirws yn eu hysgolion neu yn eu lleoliad gofal plant.

Beth sy’n digwydd i addysg fy mhlentyn os ydyn nhw’n gorfod hunan-ynysu?

Dylen nhw fod yn derbyn gwaith a chefnogaeth oddi wrth yr ysgol yn ystod y tymor. Os nad ydych chi’n siwr beth sy’n cael ei roi fel gwaith, neu os ydy’ch plentyn ddim yn deall y gwaith, yna cysylltwch gyda’r ysgol a gofyn am gymorth. Fe fedrwch chi ofyn i’r ysgol am gymorth hefyd os nad oes gan eich plentyn yr hyn sydd ei angen i gwblhau’r gwaith, megis laptop neu iPad. Efallai y gall eich hysgol fenthyg eitemau o’r fath.

Ydy fy mhlentyn dal yn medru derbyn cinio ysgol am ddim os ydyn nhw’n gorfod hunan-ynysu?

Ydyn, os ydyn nhw’n derbyn cinio ysgol am ddim fel arfer, fe fyddan nhw’n cael cynnig yr un lefel o gefnogaeth wnaethoch chi dderbyn yn ystod yr haf ac yn ystod gwyliau ysgol arall. Efallai mai taliad fydd hwn, neu daleb (voucher) neu parsel o fwyd. Am fwy o wybodaeth ar sut i gael mynediad i’r gefnogaeth yma yn eich hardal leol, dyma wefan yn llawn gwybodaeth: gwefan.

Gweld, Clywed, Yamteb Cymru

Mae Gweld, Clywed, Ymateb Cymru yma i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i ymdopi ag argyfwng Covid-19.

Maent yn cynnig atgyfeiriad cyfrinachol ar-lein ac mae ganddynt linell gymorth am ddim.

Ewch i’w tudalen

Lein Gymorth BAME Cymru

Lein gymorth amlieithog genedlaethol yw Lein Gymorth BAME Cymru; mae’n cael ei darparu gan bartneriaeth rhwng EYST (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru), Women Connect First, ProMo Cymru, y Sefydliad Henna a sefydliadau BAME (Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) eraill i gynnig gwybodaeth i bobl BAME a’u hatgyfeirio a’u mynegbostio at gyngor arbenigol a sefydliadau cymunedol a rhai’r brif ffrwd. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy gyfrwng Cronfa Argyfwng y Sector Gwirfoddol. Prosiect arbrofol dros chwe mis yw hwn i ddechrau, a’r nod yw ymateb i’r effaith anghyfartal o drwm y mae Pandemig Coronafirws yn ei chael ar gymunedau BAME.

Bwriedir y lein gymorth hon ar gyfer unrhywun dros 18 oed sy’n byw yng Nghymru, yn enwedig os ydych chi’n eich ystyried eich hun yn rhywun Du, Asiaidd neu o Leiafrif Ethnig, neu os carech chi siarad â rhywun mewn iaith arall heblaw am y Gymraeg neu’r Saesneg.

Cer i wefan Lein Gymorth BAME Cymru