Mae rhai sefydliadau ledled Cymru yn dda iawn am barchu hawliau plant, gwrando ar bobl ifanc, a’u cynnwys yn eu gwaith.
Dyma rai o’r pethau maen nhw’n eu gwneud:
- Ysgrifennu fersiynau i blant o adroddiadau a dogfennau eraill y gellid tybio fel arfer eu bod ar gyfer oedolion
- Rhoi gwybodaeth i blant am sut y bydd y gwasanaeth yn parchu eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
- Rhoi cyfleoedd i blant holi arweinwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn uniongyrchol, efallai yn rhan o sesiwn holi ac ateb
- Creu fforwm ieuenctid sy’n gweithio gyda nhw’n rheolaidd i gynnig syniadau iddynt, rhoi adborth ar eu gwaith, a’u hatgoffa o’r addewidion a wnaethant yn flaenorol, o bosibl
- Cynnwys plant wrth ffurfio’r gwasanaethau eu hunain