Atebolrwydd

Bydd gan bob aelod o staff sy’n gweithio i gefnogi plant mewn cyd-destun gofal cymdeithasol gyfrifoldebau, a byddan nhw’n gwneud penderfyniadau ac yn cymryd camau sy’n effeithio ar blant. Mae’r rhain yn ddyletswyddau statudol i rieni corfforaethol, ac mae’n rhaid gwneud penderfyniadau er lles pennaf y plentyn. Heb linellau atebolrwydd clir a darparu gwybodaeth ddigonol i blant ynghylch pam mae’r penderfyniadau hyn wedi cael eu gwneud, gall rhai plant a’u teuluoedd gael eu gadael yn teimlo fel petaent wedi’u dadrymuso.

Dylai plant dderbyn gwybodaeth a chael mynediad i weithdrefnau sy’n eu galluogi i gwestiynu a herio penderfyniadau a wnaed, os byddan nhw’n dymuno gwneud hynny. Er mwyn i hynny fod yn effeithiol, mae angen i wasanaethau fod yn dryloyw a darparu rhesymau am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd. Lle bynnag y bo modd, dylid cysylltu’r rhain â hawliau plant. I dderbyn unrhyw hawl, mae’n rhaid i blentyn wybod am eu gallu i’w hawlio, a medru mynd ati’n rhagweithiol i wneud hynny, gan gynnwys pan fyddan nhw’n gwneud cwyn neu’n herio penderfyniadau a gweithredoedd. Ystyr atebolrwydd yw galw llunwyr penderfyniadau i gyfri, sy’n galw am wybodaeth a data ynghylch perfformiad yn erbyn safonau hawliau plant.

Ffyrdd ymarferol i wasanaethau roi egwyddor atebolrwydd ar waith

  • Darparu cyfleoedd i blant graffu ar uwch-reolwyr a hefyd, mewn awdurdodau lleol, ar aelodau cabinet.
  • Sicrhau bod llinellau atebolrwydd clir yn eu lle o ran gwneud penderfyniadau. Sicrhau bod modd cyfleu hyn i blant os bydd angen.
  • Datblygu dolenni adborth da gyda phlant a gwneud y rheiny’n rhan o ddisgwyliadau ar draws y gwasanaeth. Dylai plant ddeall pa benderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud mewn perthynas â’u cefnogaeth a’u gofal a sut mae eu barn wedi cael ei chymryd i ystyriaeth. Mae’r un egwyddorion yn berthnasol pan fydd plant a phobl ifanc wedi ymwneud â datblygu gwasanaethau fel grŵp.
  • Rhoi gwybod i blant a phobl ifanc yn rheolaidd beth sy’n digwydd pan fyddan nhw’n aros am benderfyniadau, hyd yn oed os does dim newyddion pendant eto. Mae cynnig galwad fideo neu alwad ffôn yn bwysig os bydd rhaid i chi ganslo ymweliad neu gyfarfod.
  • Rhoi gwybod i blant a phobl ifanc sut mae eu barn a’u dewisiadau wedi cael eu cymryd i ystyriaeth.
  • Cymryd cwynion plant o ddifri. Ymatebwch iddyn nhw orau gallwch chi, ac os byddan nhw’n dal yn anfodlon, trefnwch eu bod nhw’n siarad â’ch rheolwr (neu beth bynnag yw cam nesaf eich proses gwynion).

Dysgwch am sut mae Wrecsam yn cymhwyso’r egwyddor atebolrwydd:

Darllenwch Astudiaeth Achos Wrecsam yma