Astudiaethau Achos Ychwanegol

Mae sefydliadau yng Nghymru yn gwella eu gwasanaethau i blant a phobl ifanc trwy wrando ar eu syniadau, siapio eu gwaith yn ôl eu hadborth, a thrwy gydnabod a hyrwyddo eu hawliau dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Dyma crynodeb o ddarnau arbennig o waith sy’n digwydd ledled Cymru.

Os ydych chi eisiau cyngor neu cymorth ar waith eich sefydliad chi gyda phlant a phobl ifanc, cysylltwch gyda ni.

Awdurdod Lleol Wrecsam

Tra’n gweithio ar ei Strategaeth Ymgysylltu Gofal Cymdeithasol Plant, cydnabyddodd yr awdurdod fod dim fersiwn addas-i-blant o’r broses gwyno ganddynt ar gyfer plant a phobl ifanc.

Aethant ati i weithio gyda’r Cyngor Gofal Pobl Ifanc a Senedd Yr Ifanc i ddrafftio a dylunio ffurflen newydd, sydd nawr wedi ei gyhoeddi, a wedi cael ei hyrwyddo yn ysgolion y sir.

Darllenwch astudiaeth achos Wrecsam

Amgueddfa Cenedlaethol Cymru

Mae Amgueddfa Cenedlaethol Cymru yn parhau i osod hawliau plant a phobl ifanc ar ganol ei gwaith.

Er mwyn parhau i gynnig gweithgareddau a digwyddiadau sy’n cynnwys pobl ifanc yn y ffordd maen nhw’n cael eu creu a’u darparu, maen nhw wedi sefydlu rhwydwaith o bobl ifanc creadigol; eu ‘Harweinwyr Etifeddiaeth Ifanc’, sy’n eu helpu i ddatblygu a chynnal gweithgareddau a digwyddiadau.

Maen nhw hefyd yn rhan o benderfyniadau ar gynnwys yr amgueddfa, a chynllunio digwyddiadau, ac maen nhw’n helpu gwneud gwahaniaeth positif yn yr amgueddfa.

Mae’r gwaith hwn yn bosib oherwydd prosiect ‘Kick the dust’ y loteri genedlaethol.

I gymryd rhan mewn prosiectau ieuenctid Amgueddfa Cenedlaethol Cymru, cysylltwch â youth.forum@museumwales.ac.uk

CNC Dull Hawliau Plant

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a phlant ledled Cymru, er mwyn datblygu Dull Hawliau Plant bydd yn helpu i sicrhau bod amgylchedd a cyfoeth naturiol Cyrmu yn cael eu cynnal yn gynaliadwy, wedi’i wella’n gynaliadwy a’i ddefnyddio’n gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol. Hefyd mae hyn yn cyfleu’r ymrwymiadau a wnaeth y plant i helpu i edrych ar ôl natur a’r byd o’u cwmpas.

Mae’r Siarter Hawliau Plant yn dangos sut fydd CNC yn cynnal ac yn hyrwyddo hawliau plant yn ein gwaith ac yn darparu gwasanaethau gwell i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Siarter Hawliau Plant – Poster A4 Dwyieithog