Astudiaethau Achos Ychwanegol

Awdurdod Lleol Wrecsam

Tra’n gweithio ar ei Strategaeth Ymgysylltu Gofal Cymdeithasol Plant, cydnabyddodd yr awdurdod fod dim fersiwn addas-i-blant o’r broses gwyno ganddynt ar gyfer plant a phobl ifanc.

Aethant ati i weithio gyda’r Cyngor Gofal Pobl Ifanc a Senedd Yr Ifanc i ddrafftio a dylunio ffurflen newydd, sydd nawr wedi ei gyhoeddi, a wedi cael ei hyrwyddo yn ysgolion y sir.

Darllenwch astudiaeth achos Wrecsam.

Amgueddfa Cenedlaethol Cymru

Mae Amgueddfa Cenedlaethol Cymru yn parhau i osod hawliau plant a phobl ifanc ar ganol ei gwaith.

Er mwyn parhau i gynnig gweithgareddau a digwyddiadau sy’n cynnwys pobl ifanc yn y ffordd maen nhw’n cael eu creu a’u darparu, maen nhw wedi sefydlu rhwydwaith o bobl ifanc creadigol; eu ‘Harweinwyr Etifeddiaeth Ifanc’, sy’n eu helpu i ddatblygu a chynnal gweithgareddau a digwyddiadau.

Maen nhw hefyd yn rhan o benderfyniadau ar gynnwys yr amgueddfa, a chynllunio digwyddiadau, ac maen nhw’n helpu gwneud gwahaniaeth positif yn yr amgueddfa.

Mae’r gwaith hwn yn bosib oherwydd prosiect ‘Kick the dust’ y loteri genedlaethol.

I gymryd rhan mewn prosiectau ieuenctid Amgueddfa Cenedlaethol Cymru, cysylltwch â youth.forum@museumwales.ac.uk

Dull Hawliau Plant Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a phlant ledled Cymru, er mwyn datblygu Dull Hawliau Plant bydd yn helpu i sicrhau bod amgylchedd a cyfoeth naturiol Cyrmu yn cael eu cynnal yn gynaliadwy, wedi’i wella’n gynaliadwy a’i ddefnyddio’n gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol. Hefyd mae hyn yn cyfleu’r ymrwymiadau a wnaeth y plant i helpu i edrych ar ôl natur a’r byd o’u cwmpas.

Mae’r Siarter Hawliau Plant yn dangos sut fydd CNC yn cynnal ac yn hyrwyddo hawliau plant yn ein gwaith ac yn darparu gwasanaethau gwell i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Siarter Hawliau Plant – Poster A4 Dwyieithog

Chwaraeon Cymru

Mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn ymgorffori hawliau plant a phobl ifanc ym mhob agwedd o’u gwaith. Cliciwch ar y linc isod i wybod sut mae nhw wedi ymgorffori’r 5 egwyddor yn eu gwaith:

Darllenwch astudiaeth achos Chwaraeon Cymru

Strategaeth Cyfranogiad Gwasanaethau Plant Sir Fynwy ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

Mae’r Strategaeth Cyfranogiad yma gan Wasanaethau Plant Sir Fynwy yn enghraifft ardderchog o sut mae gwasanaethau’n gwreiddio egwyddor cyfranogiad yn eu ffyrdd o weithio. Rydyn ni wedi dewis rhannu’r esiampl hon o arfer gorau oherwydd;

  1. Mae’n cynnwys ymrwymiad beiddgar i hawliau;
  2. Mae’n cynllunio i wreiddio barn plant yn strategol ym mhob elfen o’r gwasanaethau plant  – cynllunio, polisïau, comisiynu, adolygu;
  3. Mae’n ceisio bod yn gydweithredol, a sicrhau bod plant yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu ac yn rheoli’r sefyllfa;
  4. Mae’n myfyrio ar y gwahanol raddau o gyfranogiad a’r ffyrdd niferus posibl o gynnwys plant a gofyn am eu barn – nid ‘dull gweithredu un maint i bawb’;
  5. Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd hysbysu plant.

Rydym yn bwriadu cadw mewn cysylltiad â Sir Fynwy, i ddysgu sut mae’r strategaeth hon wedi’i rhoi ar waith. Byddwn yn awyddus i ddarganfod pa wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i brofiadau plant a phobl ifanc o wasanaethau.

Strategaeth Cyfranogiad Gwasanaethau Plant Sir Fynwy ar gyfer Plant a Phobl Ifanc