Astudiaethau Achos – Y broblem

Dyma rai enghreifftiau diweddar o fywyd go iawn sydd wedi dod at sylw tîm Ymchwiliadau a Chyngor y Comisiynydd cyn y dyddiad cyhoeddi gwreiddiol ym mis Mawrth 2020:

  • Plentyn sydd wedi profi trawma cymhleth a mynd i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys nifer o weithiau ar ôl ceisio cyflawni hunanladdiad. Oherwydd difrifoldeb y trais tuag at y rhieni, roedd yr heddlu’n cael eu galw allan i’r eiddo bron bob nos, ac yn aros am sawl awr bob tro. Roedd y plentyn yn derbyn cefnogaeth gan yr adran gofal cymdeithasol leol, ond dim cefnogaeth therapiwtig. Dywedwyd wrth y teulu fod y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc (CAMHS o hyn allan) yn methu helpu.
  • Roedd teulu yn credu bod angen lleoliad diogel ar eu plentyn, gan fod y plentyn yn peryglu ei hun. Clywson ni fod gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio cael hyd i leoliadau amgen, a’u bod wedi troi at ddwsinau o gyfleusterau preswyl, ond nad oedd lle i’r plentyn mewn un ohonynt. Y rhesymau roddwyd i ni oedd bod y plentyn ddim yn bodloni’r meini prawf. Arhosodd y plentyn mewn uned iechyd meddwl i gleifion mewnol, er bod y gweithwyr proffesiynol yn cytuno bod hynny ddim yn lleoliad priodol. Yna treuliodd y plentyn fisoedd ar ward pediatrig, oedd ddim yn lleoliad addas ar gyfer ei anghenion.
  • Plentyn ag anabledd dysgu, nad oedd ei amgylchedd cartref yn ddiogel i’r plentyn aros ynddo bellach. Mae’r plentyn wedi cael ei leoli mewn sawl man gwahanol ledled Cymru wrth i wasanaethau ymdrechu i ddelio gydag ymddygiad y plentyn. Mewn un o’r lleoliadau hyn doedd dim ymyriadau therapiwtig ar gael, a chan fod y plentyn yn llawer ifancach nag eraill yn y lleoliad, bu’r plant hŷn yn bwlio’r plentyn, ac yn achosi trawma pellach.
  • Roedd plentyn â chyflwr oedd yn cyfyngu ar fywyd ac anghenion gofal iechyd cysylltiedig sylweddol wedi bod yn derbyn gofal iechyd mewn un awdurdod lleol, ac yna newidiodd i leoliad maeth yn ardal bwrdd iechyd arall. Roedd y ddau fwrdd iechyd dan sylw yn awr yn dadlau ynghylch pwy oedd â chyfrifoldeb am anghenion iechyd y person ifanc, oedd wedi cyrraedd 18 oed yn ystod y symud.
  • Cafodd plentyn ei gadw mewn cyfleuster iechyd meddwl am wythnosau, er bod dim diagnosis iechyd meddwl, oherwydd bod dim darpariaeth arall ar gael.
  • Roedd plentyn wedi ceisio cyflawni hunanladdiad dair gwaith mewn tair wythnos. Roedd y rhieni’n teimlo y bydden nhw’n methu cadw’r plentyn yn ddiogel gartre, ond bod neb yn gwrando ar eu ceisiadau. Yn y pen draw, cafodd y plentyn ei ryddhau, heb gamau dilynol priodol.
  • Plentyn sy’n arrdangos ymddygiad ac anhawsterau sy’n awgrymu ei bod nhw’n byw â dyslecsia a dyspracsia, sydd heb fod yn yr ysgol am fwy na phedwar mis oherwydd materion gorbryder cymdeithasol a chysylltiedig â’r ysgol. Cafodd y person ifanc atgyfeiriad i CAMHS, ond fe ddwedson nhw nad oedd yn bodloni’r meini prawf i gael cefnogaeth bellach. Dywedodd CAMHS y gallai fod gan y person ifanc dueddiadau Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASD). Cwblhaodd ysgol y plentyn atgyfeiriad i’r tîm niwroddatblygiadol. Yn y cyfamser mae’r ymddygiad gorbryder sy’n destun pryder wedi gwaethygu, fel bod y teulu’n poeni’n fawr iawn. Mae’r gwasanaeth addysg lleol wedi nodi darpariaeth EOTAS a fyddai’n helpu’r plentyn i astudio ar gyfer arholiadau ysgol, ond does dim modd rhoi hyn ar waith oni bai bod y plentyn yn derbyn cefnogaeth iechyd meddwl weithredol trwy CAMHS. Gofynnodd y teulu i’r Meddyg Teulu roi ail atgyfeiriad i CAMHS i’r person ifanc. Yn ddiweddar mae CAMHS gofal sylfaenol wedi gweld y plentyn ac wedi cynnig cefnogaeth therapiwtig i helpu gyda’r gorbryder. Dyw’r plentyn ddim yn yr ysgol o hyd.
  • Roedd plentyn wedi cymryd gorddos ac yn sgîl hynny wedi cael ei dderbyn i’r ysbyty. Ers i’r plentyn gael ei ryddhau o’r ysbyty, cawsom glywed nad oedd wedi cael unrhyw gefnogaeth, er i’r teulu gael ar ddeall y byddai’r plentyn yn gallu cyrchu cefnogaeth yn y gymuned. Galwodd y teulu ar y gwasanaeth CAMHS lleol a chael ar ddeall bod y plentyn ar y rhestr aros i gael apwyntiad gyda CAMHS ond eu bod yn methu rhoi dyddiad. Roedd y plentyn hefyd ar restr aros ar gyfer cynghorydd yn yr ysgol. Dywedodd yr adran gwasanaethau cymdeithasol wrth y teulu mai cyfrifoldeb CAMHS yw cefnogi’r plentyn, ac o ganlyniad, wnaethon nhw ddim cynnig unrhyw gefnogaeth.
  • Roedd plentyn wedi cael ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ac aeth yr heddlu â’r plentyn i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys. Nid oedd y plentyn wedi cael diagnosis o anhwylder meddyliol. Lleolwyd y plentyn ar ward oedolion yn yr ysbyty, dan oruchwyliaeth dau aelod o staff asiantaeth o’r uned iechyd meddwl lle roedd wedi bod yn flaenorol. Ni allai’r plentyn ddychwelyd i’r uned, gan nad oedd modd rheoli ymddygiad y person ifanc yno. Symudwyd y plentyn i ysbyty arall, eto ar ward oedolion, ond y tro yma ar wahân i weddill y ward. Trefnwyd cyfarfod amlasiantaeth i gytuno ar y camau nesaf. Roedd 16 o weithwyr proffesiynol yn bresennol yn y cyfarfod, gan gynnwys un o CAMHS lleol y plentyn, yr adran gwasanaethau cymdeithasol perthnasol ac un o’u cyfreithwyr. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Gyfarwyddwr Clinigol CAMHS ym mwrdd iechyd y plentyn. Roedd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn honni eu bod yn methu darparu unrhyw fath ar lety diogel ar gyfer y plentyn, gan fod y person ifanc ar fin troi’n 17, ac nad oedd yn destun Gorchymyn Gofal.