Astudiaeth Achos: Ymgorffori

Grŵp Colegau CNPT: hyfforddiant ynghylch hawliau plant i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth 

Sefydliad addysg bellach ôl-16 yw Grŵp Colegau CNPT sy’n cynnig addysg yn bennaf yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys. Caiff cynrychiolwyr y myfyrwyr a swyddogion undeb y myfyrwyr eu galluogi a’u grymuso i fynegi eu hunain trwy gymryd rhan mewn hyfforddiant seiliedig ar hawliau plant fel rhan o’u rhaglen sefydlu.

Darperir hyfforddiant yn flynyddol gan Uned Hawliau Plant Castell-nedd Port Talbot a’r Swyddog Cyfraniad Myfyrwyr ac Amrywiaeth. Mae’n cynnwys:

  • Hawliau plant a phobl ifanc
  • Egwyddorion llywodraethu da a throsolwg o strwythur llywodraethu’r coleg a’r strwythur adroddiadau
  • Y sgiliau sydd eu hangen i fod yn arweinwyr myfyrwyr effeithiol

Mae cynrychiolwyr myfyrwyr a swyddogion undeb yn rhan o fframwaith cyfranogiad myfyrwyr ehangach sydd ar waith ar draws y Coleg. Mae hyn yn cynnwys grwpiau sy’n gwneud penderfyniadau, er enghraifft Grŵp Strategaeth Iechyd a Llesiant y Coleg a Grŵp Rheoli Amrywiaeth y Coleg. Yn ogystal, mae’n cynnwys ymgyngoriadau helaeth â’r corff myfyrwyr trwy arolygon a grwpiau ffocws.

Un o’r ffactorau allweddol sydd wedi cyfrannu at lais myfyrwyr sy’n uchel, yn gryf ac yn seiliedig ar wybodaeth, yw dull gweithredu’r coleg cyfan o ymdrin â chyfranogiad ac Erthygl 12 o CCUHP, a hyrwyddir gan y tîm uwch-reolwyr a’r Bwrdd Corfforaeth.

Bydd y camau nesaf yn cynnwys darparu hyfforddiant Cyflwyniad i Hawliau Plant ar gyfer gweithwyr proffesiynol gan ganolbwyntio i ddechrau ar staff addysgu a staff cynorthwyol.