Astudiaeth Achos – SPACE-Wellbeing Gwent

Mae BPRh Gwent wedi datblygu model o baneli Un Pwynt Mynediad ar gyfer Llesiant Emosiynol a Iechyd Meddwl Plant (SPACE-Wellbeing). Mae’r paneli hyn ar waith ar draws ardaloedd 5 awdurdod lleol Gwent. Mae’r gwaith hwn wedi adeiladu ar y ‘Paneli Cymorth Cynnar’ oedd eisoes yn eu lle yn Sir Fynwy a Chasnewydd, ac wedi ehangu ar draws ardaloedd y tri awdurdod lleol arall, sef Torfaen, Caerffili a Blaenau Gwent. Mae ‘uwchraddio’r’ paneli hyn wedi cael ei gyflawni trwy gyllid trawsffurfio ac arloesedd iechyd meddwl. Defnyddiwyd peth o Arian Trawsffurfio Llywodraeth Cymru hefyd i ariannu’r prosiect hwn.

Mae’r paneli’n cwrdd unwaith yr wythnos ac yn derbyn atgyfeiriadau o ffynonellau lluosog: Meddygon Teulu, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, ond hefyd rhieni a theuluoedd. Derbynnir atgyfeiriadau ar gyfer plant sydd ag anghenion cymhleth, a allai gynnwys hanes o drawma, problemau teuluol, anhwylderau iechyd meddwl, anghenion gofal cymdeithasol, ac anabledd.

Mae’r rhai sy’n mynychu’r panel y bu’r Comisiynydd yn ymweld ag ef yn Sir Fynwy (Panel Cymorth Cynnar Sir Fynwy) yn cynnwys cynrychiolwyr o ystod eang o wasanaethau: gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol ac arbenigol, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, gwasanaeth chwaraeon a hamdden yr awdurdod lleol, gwasanaethau ieuenctid, gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol, gwasanaeth Meithrin Teuluoedd Cryfach, darpariaeth iechyd meddwl y trydydd sector, gwasanaeth pontio anabledd dysgu, sefydliad gofalwyr ifanc, gwasanaethau tai, a gwasanaethau menter ieuenctid.

Yn y cyfarfod hwn o’r panel, trafodwyd mwy na 20 o blant a phobl ifanc mewn cyfnod o 1½ awr. Trefnwyd ymyriad ar unwaith ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc (neu ddilyniant o ymyriadau lle roedd hynny’n briodol). Roedd y rhain yn amrywio o ymweliad syml i gwrdd â’r person ifanc dros baned o de a thrafod opsiynau cymorth lleol, cynnig i ymuno â grŵp cefnogi gofalwyr ifanc, cefnogaeth i ymuno â gweithgaredd cymdeithasol neu chwaraeon, cwnsela profedigaeth neu therapi chwarae i ymwneud â CAMHS arbenigol, mewn nifer bach o achosion. Nod y panel yw cymryd i ystyriaeth holl amgylchiadau’r teulu os yw hynny ar gael iddyn nhw, ac ymateb i’r holl anghenion sy’n berthnasol i’r person ifanc dan sylw, i’r graddau mae hynny’n bosib.

Mae gwerthusiad o’r paneli ar waith ar hyn o bryd, ond gall y bwrdd ddangos bod gostyngiad yn y galw am iechyd meddwl arbenigol i blant, o ganlyniad i ddyrannu ffynonellau cefnogaeth eraill mwy priodol i blant a theuluoedd trwy’r paneli.

Mae SPACE-Wellbeing yn rhan o fodel ‘Mynydd Iâ’ Gwent.

Mae’r fideo isod, gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn esbonio mwy am y model Mynydd Iâ.