Astudiaeth Achos – Cwm Taf Morgannwg

Mae BPRh Cwm Taf Morgannwg wedi gwneud cynnwys plant a phobl ifanc yn fwy yn eu gwaith yn flaenoriaeth. Ffurfiwyd blaenoriaethau strategol y Bwrdd ei hun trwy weithio gyda phobl ifanc, er enghraifft trwy Fforymau Ieuenctid a phrosiectau unigol sydd wedi defnyddio dull cynhyrchu ar y cyd i lunio gwasanaethau gyda phobl ifanc. Bellach mae’r Bwrdd yn gweithio i ddatblygu trefniadau mwy hirdymor ar gyfer cynhyrchu ar y cyd. Er enghraifft, mae angen i’r meini prawf sgorio ar gyfer grantiau ICF trydydd sector sydd ar gael i brosiectau sydd â ffocws ar blant ag anghenion cymhleth gynnwys yr angen am ddatblygu agwedd gyd-gynhyrchiol at wella iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc. Bydd angen hefyd i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu gweithdy cyd-gynhyrchu.

Y cam nesaf ar gyfer y BPRh fydd cynnal gweithdy gyda phobl ifanc, lle bydd Cadeirydd y BPRh yn bresennol, er mwyn datblygu dull strategol mwy hir dymor, ar y cyd â’r bobl ifanc, o ran sut maen nhw am ymwneud â chyd-gynhyrchu gwaith y Bwrdd. Nid oedd y bobl ifanc yn awyddus i eistedd ar yr is-grŵp plant neu ar y bwrdd yn unig, gan eu bod yn teimlo y gallai hynny fod yn docynistaidd, ac maent wedi dweud wrth y BPRh eu bod am i’w hymwneud fod yn ystyrlon. Mae grŵp strategol y bwrdd ar gyfer plant a phobl ifanc wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys cynrychiolwyr oedd yn mynychu Fforymau Ieuenctid yn y rhanbarth, i gynnig cyfres o flaenoriaethau, lle bydd y prif bryderon yn ymwneud â iechyd emosiynol, llesiant a iechyd meddwl. Bydd y grŵp strategol yn cael ei dywys gan y flaenoriaeth hon yn eu gwaith.

Gan fod Cwm Taf Morgannwg yn rhanbarth newydd ei ffurfio, maen nhw’n manteisio ar y cyfle i gynnal ymarferiad mapio o’r ddarpariaeth bresennol ar draws y rhanbarth, o’r cyffredinol i’r arbenigol, ac o feichiogi at 25 oed. Nodwyd cyllid refeniw ICF hefyd ar gyfer datblygu cymorth cymunedol a thrydydd sector ar gyfer plant a phobl ifanc.