Astudiaeth Achos – Atebolrwydd

Ysgol Gynradd Lodge Hill Caerllion

Mae Ysgol Gynradd Lodge Hill Caerllion wedi’i lleoli yng Nghaerllion, Casnewydd. Cyflwynodd ei gwaith ar ailwampio ei strategaeth gwrthfwlio i Grŵp Llywio Cynghrair Gwrthfwlio Cymru yn 2022.

Dechreuodd drwy ymgorffori ei gwaith ar wrthfwlio yn y Cynllun Datblygu Ysgol a rhoi newidiadau ar waith i brotocolau ac arfer dyddiol. Y prif newid amlwg i arfer yr ysgol oedd yr eirfa a ddefnyddiwyd wrth gyfeirio at wrthfwlio; er enghraifft, mae ‘targed’ a ‘chyflawnwr’ wedi disodli ‘dioddefwr’ a ‘bwli’. Enillodd ei ffocws fomentwm ar ôl cael ei chyflwyno i elusen gwrthfwlio Kidscape, lle y manteisiodd yr ysgol ar hyfforddiant ac adnoddau.

Ail-luniodd Ysgol Lodge Hill Caerllion ei pholisi gwrthfwlio a’i hailenwi’n Bolisi Hawliau, Parch, Cydraddoldeb. Ynddo, rhoddodd bwyslais ar atal achosion o fwlio drwy ddeall y rhesymau y tu ôl i fathau penodol o ymddygiad a chofleidio’r angen i roi cefnogaeth i bawb sy’n gysylltiedig â digwyddiadau. Defnyddiwyd camau gweithredu deg pwynt Kidscape i hwyluso’r gwaith o ail-lunio’r polisi, a chafodd y polisi fewnbwn gan staff yr ysgol a’r Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion. Mae ei chynllun gweithredu ar y polisi yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru bob tymor.

Penodwyd aelod staff arweiniol a llywodraethwr arweiniol ar gyfer Hawliau, Parch, Cydraddoldeb i gydlynu, arwain a hyrwyddo’r weledigaeth a oedd yn dod i’r amlwg, a gwahoddwyd yr holl lywodraethwyr i fynychu hyfforddiant HPC cyn diwedd blwyddyn academaidd 2021-22.

Mae’r Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion yn cyfarfod â’r pennaeth a staff HPC yn wythnosol i rannu syniadau a gwneud awgrymiadau i fynd i’r afael â phryderon sy’n cael eu codi gan ddisgyblion eraill. Hefyd, mae’r tîm yn llunio cwestiynau i’w defnyddio mewn arolwg HPC chwe-misol i holl ddisgyblion yr ysgol, a chaiff y canlyniadau eu defnyddio i gynllunio a ffocysu ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Ar ôl achosion o fwlio, mae’r ysgol yn mabwysiadu strategaethau amrywiol i helpu ailadeiladu hyder, hunan-barch a pherthnasoedd. Er enghraifft:

  • Caiff sesiynau cyfiawnder adferol eu cynnal rhwng disgyblion sy’n rhan o ddigwyddiad
  • Caiff sesiynau ELSA eu trefnu i’r disgyblion dan sylw i roi amser iddynt siarad â rhywun am eu teimladau
  • Caiff sesiynau agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu (SEAL) eu defnyddio i helpu i feithrin cyfeillgarwch a sgiliau cymdeithasol.

Mentora cymheiriaid

Mae staff addysgu’r ysgol hefyd yn mynd ati i sefydlu Rhaglen Mentora Cymheiriaid ar ôl cael hyfforddiant gan Kidscape.

Bydd disgyblion Blwyddyn 4 a 5 yn ymgyfeillio â disgyblion iau sydd angen cymorth â sgiliau cymdeithasol a meithrin cyfeillgarwch, ac yn modelu ymddygiad disgwyliedig.

Bydd grŵp llywio o aelodau staff yn hyrwyddo’r rhaglen a chrëwyd cynllun gweithredu hefyd i asesu, adolygu a gwella wrth iddynt symud drwy’r broses.

Kidscape www.kidscape.org.uk
Cynghrair Gwrthfwlio www.anti-bullyingalliance.org.uk