Beth alla’ i ei wneud?
- Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn gwybod bod ganddo’r hawl i fod yn ddiogel ar-lein, yn ogystal ag all-lein.
- Bydd hyn yn rhoi’r hyder iddo ddweud wrthych os bydd rhywbeth yn gwneud iddo deimlo’n anniogel.
- Dylech greu amgylchedd gartref lle rydych yn siarad yn agored am bob agwedd ar fywyd eich plentyn. Bydd hyn yn helpu eich plentyn i drafod unrhyw bryderon gyda chi; p’un a ydynt yn ymwneud â’i fywyd ar-lein neu all-lein.
- Dylech ddysgu am y platfformau y mae’n eu defnyddio a beth mae’n hoffi ei wneud arnynt, a siarad am unrhyw bryderon sydd gennych. Efallai bydd gwefan NSPCC o gymorth i chi.
- Dylech gynnwys eich plentyn wrth wneud unrhyw reolau newydd ynglŷn â defnyddio’r rhyngrwyd – bydd yn fwy tebygol o lynu wrthynt os oedd wedi helpu i’w llunio.
- Mae seiberfwlio yn fater o bwys i blant. Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau newydd ar fwlio yn yr ysgol, sy’n cynnwys seiberfwlio. Mae’n cynnwys cyngor i rieni a phobl ifanc, yn ogystal ag ysgolion.
Beth ddylai pobl eraill ei wneud?
Dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol fod yn gwneud llawer mwy i amddiffyn hawliau plant ar-lein.
Ym mis Chwefror 2020, dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai’r cwmni Ofcom yn gyfrifol am sicrhau bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn gwneud mwy i amddiffyn plant ar-lein.
Nid ydym yn gwybod eto beth fydd Ofcom yn ei wneud i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol sy’n methu â chadw plant yn ddiogel. Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn penderfynu ar hyn yn ddiweddarach eleni.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd i ysgolion ar ddelio â bwlio, gan gynnwys seiberfwlio. Maen nhw’n dweud y dylai ysgolion gofnodi pob achos o fwlio yr adroddir amdano i’w helpu i weld pa mor dda mae eu strategaethau gwrthfwlio’n gweithio.
- Dylai eich darparwr rhyngrwyd eich helpu i ddeall y rheolaethau rhieni y gallech eu defnyddio i helpu i gadw’ch plentyn yn ddiogel.
- Mae sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant wedi creu llawer o adnoddau i helpu rhieni a phlant i aros yn ddiogel ar-lein. Dyma rai ohonynt:
Mae gan ardal ddiogelwch ar-lein Hwb llawer o adnoddau defnyddiol i rieni ac athrawon am ddiogelwch plant ar-lein.
Ar ddolen rhaglen addysg ‘thinkuknow CEOP’ gweler adnoddau defnyddiol i bobl ifanc a rhieni ar sut i gadw’n ddiogel wrth ddefnyddio ffôn, dabled neu gyfrifiadur.
Mae gennym ni hefyd adnoddau seiber-fwlio defnyddiol ein hunain i blant oedran cynradd ac uwchradd.
Dolenau Cyswllt Defnyddiol
RHAGLEN ADDYSG THINKUKNOW CEOP
Ein Adnoddau i’n Gwrth-Seiberfwlio
EIN HADNODD HYGYRCH GWRTH-SEIBERFWLIO