Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru

  1. Fel cyllidwyr Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, dylai Llywodraeth Cymru gwneud ei chyfrifoldebau yn glir o ran y fframwaith y mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gweithio o fewn. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod mecanweithiau atebolrwydd cadarn yn eu lle er mwyn i’r Byrddau adrodd ar eu gwaith ynghylch trefniadau amlasiantaeth ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, gan gynnwys pontio i wasanaethau oedolion. Dylai hyn gynnwys adolygu Cynlluniau Ardal BPRhau yn rhagweithiol a monitro cynnydd yn erbyn eu huchelgeisiau trwy Adroddiadau Blynyddol a chyfarfodydd.
  2. Bydd angen i Lywodraeth Cymru gefnogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol gyda’u strategaethau tymor hir. Bydd mwy o angen y gefnogaeth hon yn awr nag erioed oherwydd yr amgylchiadau presennol, a dylid egluro sut bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i sicrhau gwell profiadau a chanlyniadau i blant a’u teuluoedd. Dylai hyn gynnwys newid i’r system a fydd yn helpu teuluoedd i brofi dull gweithredu ‘dim drws anghywir’ ym mhob rhanbarth, megis timau integredig, modelau hwb a phanel i ddarparu cymorth cydlynus yn brydlon, canolfannau galw heibio a chynlluniau ar gyfer darpariaeth breswyl integredig lle bo angen.
  3. Dylai Llywodraeth Cymru newid y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth i fynnu bod cyllid yn cael ei gyfuno i greu dull ‘dim drws anghywir’ ar gyfer plant a phobl ifanc.
  4. Rhaid i adolygiad cyfredol Llywodraeth Cymru o ‘lety diogel’ arwain at gamau pendant i ddatblygu darpariaeth breswyl newydd yng Nghymru ar gyfer plant ag anghenion cymhleth adeg cyflwyno’r adroddiad.
  5. Dylai Llywodraeth Cymru a’r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (2) weithio gyda’u partneriaid a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i drefnu digwyddiadau dysgu a rennir pellach a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar ddull ‘dim drws anghywir’ ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth.
  • Dylai’r digwyddiadau dysgu a rennir hyn gynnwys trafodaeth ar y rhwystrau rhwng defnydd gwasanaethau o iaith (yn arbennig yng nghyswllt iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, ond heb ei gyfyngu i hynny) ynghylch plant ag anghenion cymhleth, er mwyn hybu’r diffiniad newydd ehangach o dan ganllawiau statudol diwygiedig Rhan 9, yn ogystal â chael eu tywys gan ddiffiniad Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru. Dylai’r digwyddiadau hefyd gynnwys trafodaethau ar sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu ac adnoddau’n cael eu cyfuno, ac a oes angen gwella’r system bresennol ar gyfer rhannu gwybodaeth.