Argymhellion ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Adduned gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Byddaf yn cwrdd â’r holl Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22 i ddilyn ymlaen o’r darn yma o waith, ac yn benodol i wirio cynnydd yn erbyn yr argymhellion canlynol. Byddaf yn gwahodd â phobl ifanc i ymuno gyda fi ar gyfer pob cyfarfod fel bod ganddyn nhw’r cyfle i graffu ar welliannau pob Bwrdd.”

Argymhellion ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol:

  1. Fel rhan o’n hymateb cenedlaethol i anghenion iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc wedi’r cyfnod hwn o gyfyngiadau symud, dylai pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gynllunio a gweithredu dull ‘dim drws anghywir’ o ymdrin â iechyd meddwl a llesiant, a allai gynnwys timau integredig a modelau panel a hwb i ddarparu cymorth cydlynus yn brydlon, canolfannau galw heibio, a chynlluniau ar gyfer darpariaeth breswyl integredig lle bo angen. Dylai pob Bwrdd adolygu eu Cynllun Ardal cyfredol i sicrhau eu bod yn cymryd camau digonol i roi sylw i anghenion plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, a bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yn wir yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i gyflawni hyn. Dylai hyn gynnwys ystyried y Cynllun yng ngoleuni pandemig Covid-19 ac effaith hynny ar y blynyddoedd sy’n weddill o’r Cynllun Ardal, a strategaethau tymor hwy.
  2. Rhaid i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r canllawiau statudol Rhan 9 sydd newydd eu diwygio trwy wneud y canlynol:
  • Sicrhau nad yw cyllid i’w weld yn cael ei ‘gadw’ gan naill ai’r bwrdd iechyd na’r awdurdod lleol, a bod y trefniadau hyn yn destun cytundeb ysgrifenedig rhwng partneriaid. Dylai’r cronfeydd fod yn eiddo i’r rhanbarth cyfan, a dylai pob gwasanaeth deimlo bod ganddyn nhw gyfran gyfartal.
  • Yng ngoleuni’r gofyniad statudol newydd i estyn dyletswyddau adran 12 i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, dylai pob Bwrdd adolygu eu trefniadau cyfredol ar gyfer ymgysylltu â chynhyrchu ar y cyd gyda phlant a phobl ifanc. Dylai BPRhau ddefnyddio fframwaith Y Ffordd Gywir i fabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant, a fydd yn tywys eu dull o weithio gyda phlant a phobl ifanc, a hefyd y Safnonau Cyfranogiad Cenedlaethol. Mae’n rhaid i hyn cynnwys y Bwrdd ei hun yn gwrando ar blant a phobl ifanc yn uniongyrchol, a bod plant a phobl ifanc yn cael y pwêr i siapio gwaith y Bwrdd.
  • Fel rhan o’u dyletswydd i gefnogi trefniadau pontio effeithiol, integredig o’r gwasanaethau plant i wasanaethau oedolion, dylai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol gyhoeddi protocolau pontio amlasiantaeth, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu, gan ystyried sut mae cyflwyno dull gweithredu fel bod y problemau lluosog, ystyfnig o ran anghysondebau sy’n ymwneud â lle mae pobl yn byw, a threfniadau pontio ar draws ffiniau a sectorau yn cael eu hintegreiddio gymaint â phosibl.
  1. Dylai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol weithio gyda’r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (2) i archwilio sut gallan nhw drefnu gwaith y BPRhau yn well a hysbysebu gwaith a rôl y Byrddau yn well mwyn iddyn nhw fod yn fwy hygyrch i deuluoedd. Dylai hynny gynnwys disgrifiadau hygyrch o lwybrau amlasiantaeth ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, yn ogystal â’r prosiectau hynny sy’n uniongyrchol berthnasol i blant a’u teuluoedd.
  2. Dylai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol weithio gyda chynrychiolwyr dinasyddion a’r trydydd sector sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn ddigonol mewn gwaith ystyrlon fel rhan o’r Bwrdd, ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n llawn fel partneriaid cyfartal gan yr aelodau statudol.
  3. Dylai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ddatblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar faterion a allai orgyffwrdd, lle roedd y rhain yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys cytundeb ar sut i ymdrin â’r materion hynny a fyddai’n elwa o weithio ar y cyd rhwng Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, megis rhoi trefniadau yn eu lle er mwyn cynnig am gyllid neu gomisiynu ar y cyd.