Anghenion dysgu ychwanegol

Yng Nghymru, mae’r ffordd y mae pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu haddysg yn newid.

Mae deddf newydd o’r enw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn bodoli sy’n dweud:

  • y dylai pob person ifanc gael ei helpu mor gynnar â phosibl i gyrraedd ei botensial llawn
  • bod angen i weithwyr proffesiynol asesu anghenion unigol plant a theilwra’r cymorth maen nhw’n ei roi iddynt
  • bod angen i blant a theuluoedd gyfrannu at ddatblygu eu cynlluniau unigol

Dechreuodd y ddeddf newydd i newid y broses ar gyfer plant o fis Medi 2021.

Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i hawliau plant gael eu hystyried pan wneir penderfyniadau ynglŷn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Os ydych yn poeni nad yw’ch plentyn yn cael y cymorth y mae arno ei angen, cysylltwch â’n tîm.

Cysylltwch â ni