The Children's Commissioner discusses the content of a piece of paper with a young person

Prosiectau 2023/24

Bydd ein tîm yn gweithio ar y prosiectau yma i gyd yn ystod y flwyddyn nesaf.

Ble mae plant yn byw yng Nghymru?

Bydd y gwaith yma yn ffocysu ar brofiadau plant a phobl ifanc o lety a thai, yn cynnwys archwilio defnydd llety anrheoleiddiedig a heb eu rhestru.

Llywodraethu o fewn y sysem diogelu plant

Mae angen ffocws cryfach ar lywodraethu ac atebolrwydd o fewn ein system diogelu plant. Dyw hi ddim yn glir sut mae byrddau diogelu rhanbarthol yn cael eu dal yn atebol am gwblhau’r argymhellion mewn adolygiadau ymarfer plant a dyw hi ddim yn glir sut mae gwersi o un adolygiad i’r llall yn cael eu gweithredu’n genedlaethol i sicrhau fod plant yn cael eu cadw’n ddiogel. Bydd y gwaith yma yn archwilio y pwnc yma gyda’r nôd o argymell gwelliannau.

Hiliaeth a digwyddiadau hiliol mewn ysgolion

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i beidio â phrofi camwahaniaethu, ac i addysg llawn. Er hyn, mae hiliaeth yn cael effaith enfawr ar nifer o blant ar draws Cymru, yn cynnwys pan maen nhw yn yr ysgol.

Rydyn ni’n ymchwilio y mater o hiliaeth a digwyddiadau hiliol mewn ysgolion uwchradd. Rydyn ni’n gobeithio bydd ein gwaith yn helpu ysgolion i gryfhau eu hymatebion i hiliaeth.

Rydyn ni’n bwriadu:

  • casglu barn a phrofiadau pobl ifanc am hiliaeth a digwyddiadau hiliol yn yr ysgol
  • clywed barn athrawon, a chasglu esiamplau o arfer da ar ymateb i hiliaeth yn yr ysgol
  • archwilio y fframwaith sy’n bodoli ar hyn o bryd er mwyn ymateb i ddigwyddiadau hiliol
  • gwneud argymhellion, wedi eu llunio gan farn pobl ifanc, addysgwyr, a chyrff rheoli, er mwyn cryfhau ymateb ysgolion i hiliaeth

Os hoffech chi wybod mwy am y prosiect yma neu rannu eich barn, cysylltwch gyda ni.

Addysg mewn lleoliadau ysbyty

Mae gan bob plentyn hawl i dderbyn addysg. Dylai plant sy’n gorfod aros yn yr ysbyty neu mewn lleoliadau gofal iechyd eraill gael cefnogaeth i ddysgu os ydyn nhw’n ddigon iach i wneud hynny. Yng Nghymru mae ganddyn nhw hawl i hynny o dan y gyfraith. Ond rydyn ni’n pryderu nad yw pob plentyn, yn ymarferol, yn cael cyfleoedd i ddysgu pan fyddan nhw’n aros yn yr ysbyty. Bydd y prosiect yma’n ymchwilio i weld ydy plant yn gallu cael mynediad i’w hawl i addysg a beth yw barn y plentyn a’u teulu am eu profiadau. Rydyn ni’n gobeithio canfod a rhannu enghreifftiau da o sut mae plant yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu doniau a’u sgiliau. Byddwn ni hefyd yn tynnu sylw at unrhyw fylchau rydyn ni’n dod o hyd iddyn nhw yn y ddarpariaeth ac yn nodi unrhyw rwystrau mae’r rhai sy’n gyfrifol am ddarparu’r hawl gyfreithiol yma yn eu hwynebu. Ein nod yw sicrhau bod plant, ble bynnag y maen nhw, yn gallu cael mynediad i’w hawl ddynol i dderbyn addysg.

Gwneud yn siwr bod ein Cynlluniau Llysgenhadon mor effeithiol a sy’n bosib

Rydyn ni eisiau gwneud popeth gallwn ni i helpu oedolion i ddysgu plant a phobl ifanc am eu hawliau dynol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Ond rydyn ni’n gwybod bod trosi hawliau plant yn brofiadau addysgol ystyrlon ddim bob amser yn hawdd.

Dyna lle gallwn ni helpu.

Rydyn ni am wneud yn siŵr bod gan athrawon a gweithwyr ieuenctid popeth sydd angen i fedru cefnogi plant yn hyderus i wneud hynny, gan gynnwys adnoddau, cynlluniau gwersi, ac arweiniad gan ein tîm o arbenigwyr ar hawliau plant.

Eleni byddwn ni’n treulio amser yn gwrando ar blant, athrawon, a gweithwyr ieuenctid, i wneud yn siwr bod ein cynlluniau hawliau plant mor effeithiol a sy’n bosib.