Adnodd Taclo Islamoffobia

Darllenwch a lawrlwythwch Taclo Islamoffobia: Adnodd Hawliau Plant i Ysgolion Uwchradd yng Nghymru

Yr adnodd

Mae’r adnodd yn cynnwys tair cynllun gwers, a ddyluniwyd ar gyfer ysgolion uwchradd, i’w helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o Islamoffobia, i daclo cysyniadau negyddol, ac i gyflwyno profiadau go iawn Mwslimiaid ifanc yng Nghymru.

Mae’n cynnwys pedwar fideo i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth:

Profiadau

Mae’r fideo hwn yn cyflwyno profiadau rhai Mwslimiaid ifanc yng Nghymru, yn cynnwys hiliaieth, a’r effaith gall hon cael ar deuluoedd.

Ystyr Islam

Yn y fideo hwn, mae Mwslimiaid ifanc yn trafod beth mae Islam yn golygu iddyn nhw. I rhai, mae un gair yn hollbwysig: heddwch.

Portreadau cyfryngau

Sut gall y cyfryngau siapio ein barn? Mae Mwslimiaid ifanc yn y fideo hwn yn trafod eu pryderon am sut mae Islam weithiau’n cael ei phortreadu yn y wasg.

Hobïau

Beth sy’n debyg rhyngddom ni? Gall beth sy’n debyg rhyngddom helpu ni i ddod yn agosach at ein gilydd?