Y Comisiynydd Plant yn croesawu canllawiau newydd am wisg ysgol

Wrth ymateb i ganllaw stautudol newydd ar wisg ysgol, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Gwrandawon ni i bron i 9,000 o blant a 900 o rieni a gofalwyr fel rhan o’n hymgynghoriad cenedlaethol flwyddyn diwethaf. Roedd y neges yn glir: mae plant yn poeni am eu teuluoedd yn fforddio y pethau angenrheidiol, ac mae rhieni yn gweld hi’n anodd i ymdopi gyda phrisiau ystod eang o nwyddau gwahanol. Roedd talu am wisg ysgol yn bryder i nifer, felly rydw i’n croesawu y ffocws pwysig yma ar fforddiadwyedd fel rhan o’r canllaw newydd.”