Tair Swydd

Mae gan ein Llysgenhadon tair swydd.

Yn y fideos ar y dudalen hon, rydyn ni wedi gweithio gydag ysgolion i esbonio tair swydd y Llysgenhadon a pam maen nhw’n bwysig.

Swydd 1 – Esbonio pwerau’r Comisiynydd i ddisgyblion eraill

Gofynnon ni i ddisgyblion Ysgol Pen-Y-Bryn yn Abertawe i esbonio pwerau’r Comisiynydd.

Maen nhw hefyd yn cynnig syniadau am sut gall eich disgyblion sicrhau bod pawb yn yr ysgol yn gwybod am y Comisiynydd a’i gwaith.

Swydd 2 – Sicrhau bod plant eraill yn gwybod am hawliau plant a CCUHP

Wnaeth disgyblion Ysgol Heronsbridge ein helpu i feddwl am sut gall pobl ifanc hyrwyddo hawliau plant yn yr ysgol.

Rydyn nhw wedi creu 5 awgrym arbennig ar gyfer ysgolion ar draws Cymru i’w hystyried.

Swydd 3 – Cwblhau tasgau arbennig i’r Comisiynydd yn eu hysgol. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth rydyn ni’n derbyn trwy’r tasgau arbennig er mwyn trio gwella pethau i blant a phobl ifanc.

Dyma fideo Ysgol Hafod Lon sy’n dangos sut wnaethon nhw gwblhau un o’n tasgau arbennig flwyddyn diwethaf ar seiberfwlio.

Rydyn ni’n gosod un tasg arbennig pob tymor i’n Llysgenhadon.