Swyddfa Newydd yn Abertawe yn Agor i’n Helpu i Gyrraedd Mwy o Blant a Phobl Ifanc ledled Cymru

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi agor swyddfa newydd yn swyddogol yn Abertawe fel rhan o ymrwymiad ehangach i fod yn fwy gweladwy, yn fwy hygyrch ac yn fwy cysylltiedig â phlant a phobl ifanc ledled Cymru. [Hydref 2026]

Wedi’i lleoli yng nghanol dinas Abertawe, agorwyd y swyddfa newydd yn ffurfiol mewn digwyddiad arbennig a fynychwyd gan Susan A Jones MBE DL, Dirprwy Raglaw Gorllewin Morgannwg, ynghyd â rhanddeiliaid lleol, cynrychiolwyr etholedig a sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae’r ganolfan newydd yn garreg filltir bwysig wrth gyflawni strategaeth dair blynedd newydd y Comisiynydd, sy’n cynnwys ffocws cryf ar godi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc o waith Comisiynydd Plant Cymru a chryfhau perthnasoedd â chymunedau ledled Cymru.

Bydd swyddfa Abertawe yn cefnogi gwaith cynyddol y sefydliad ym maes allgymorth ac ymgysylltu, gan helpu i feithrin cysylltiadau cryfach â phlant a phobl ifanc o amrywiaeth eang o gefndiroedd, gan gynnwys plant sydd â phrofiad o ofal, plant anabl, plant o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a phlant sy’n byw mewn tlodi ac amddifadedd.

Dod â’r Comisiynydd yn Nes at Blant a Phobl Ifanc

Dywedodd Rocio Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru:

“Ni all Comisiynydd Plant Cymru wneud gwahaniaeth oni bai bod plant a phobl ifanc yn gwybod ein bod ni yma ar eu cyfer nhw.

Mae’r swyddfa newydd hon yn ymwneud â dod â ni’n nes at y plant, y bobl ifanc a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym am i fwy o blant wybod pwy ydym ni, beth yw eu hawliau, a ble y gallant droi os oes angen cymorth arnynt.

Ein huchelgais yw bod yn fwy gweladwy, yn fwy hygyrch ac yn fwy cysylltiedig â bywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru.”

Cefnogi Cymunedau Ledled Cymru

Mae’r swyddfa newydd yn rhan o gynlluniau ehangach i gryfhau presenoldeb y Comisiynydd ledled Cymru. Er y bydd swyddfa Abertawe yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer gwaith ymgysylltu yn Ne-orllewin Cymru, bydd gwaith yn parhau mewn cymunedau ledled Canolbarth a Gogledd Cymru drwy raglen allgymorth ac ymgysylltu sy’n ehangu. Mae presenoldeb ychwanegol ym Mae Caerdydd hefyd wedi’i sefydlu i gefnogi’r gwaith hwn.

Y llynedd, cefnogodd Gwasanaeth Cyngor a Chymorth y Comisiynydd fwy na 600 o blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr ar faterion yn ymwneud â hawliau a llesiant plant. Mae’r sefydliad hefyd yn gweithio’n uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a phenderfynwyr i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau plant yn helpu i lunio polisi ac ymarfer.

Croeso Cynnes gan Gefnogwyr Lleol

Croesawodd Gwyn Williams AS agor y swyddfa newydd, gan ddweud:

“Rwy’n falch iawn bod Comisiynydd Plant Cymru wedi agor swyddfa newydd yn Abertawe. Mae Rocio yn arwain gwaith hollbwysig ar ran plant a phobl ifanc ledled Cymru, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda hi a’i thîm i hyrwyddo’r gwaith hwnnw a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc yn Abertawe a thu hwnt.”

Ychwanegodd Susan A Jones MBE DL, Dirprwy Raglaw Gorllewin Morgannwg:

“Roedd hi’n fraint helpu i agor swyddfa newydd Comisiynydd Plant Cymru yn swyddogol. Mae ymrwymiad y Comisiynydd i fod yn fwy gweladwy ac yn fwy hygyrch yn gam pwysig ymlaen. Bydd y swyddfa newydd hon yn helpu i sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc yn ymwybodol o’u hawliau, y cymorth sydd ar gael iddynt, a ble y gallant droi pan fydd angen help arnynt.”

Edrych Ymlaen

Wrth siarad yn y digwyddiad lansio, amlygodd Rocio fod cynyddu effaith y sefydliad yn ymwneud â llawer mwy nag adeiladau yn unig. Ochr yn ochr â’r swyddfa newydd, mae’r Comisiynydd wedi buddsoddi mewn swyddi allgymorth ac ymgysylltu newydd sydd wedi’u cynllunio i gryfhau perthnasoedd â phlant, pobl ifanc a sefydliadau cymunedol ledled Cymru.

Cafodd gwesteion y lansiad gyfle hefyd i ddysgu mwy am waith y Comisiynydd, gan gynnwys y Gwasanaeth Cyngor a Chymorth, gweithgareddau cyfranogi ac ymgysylltu, ac ymdrechion i ddylanwadu ar bolisïau a gwasanaethau cyhoeddus ar ran plant a phobl ifanc.

Wrth i’r sefydliad barhau i ehangu ei bresenoldeb mewn cymunedau ledled Cymru, mae’r swyddfa newydd yn Abertawe yn cynrychioli cam pwysig tuag at sicrhau bod mwy o blant yn gwybod am eu hawliau, yn gwybod ble i droi am help, ac yn gwybod bod eu lleisiau’n bwysig.